Disgyblion yn chwarae rôl mewn prosiect gwella cymdogaethau
Gwahoddir pobl yng nghyffiniau Colcot i wirfoddoli yn Margaret Avenue fel rhan o broject Bancio Amser y Fro.
Mae Tîm Buddsoddi Cymunedol Cyngor Bro Morgannwg yn gyfrifol am ddatblygu ystod o fentrau i gynnwys tenantiaid a’u helpu i ennill sgiliau newydd wrth greu cymunedau cydlynol.
Mae’r tîm yn gweithio gyda Chredydau Amser Spice, i reoli’r cynllun yn y Fro. Enillir credydau amser drwy wirfoddoli yn eich cymuned leol, a gellir eu gwario ar weithgareddau a chyfleoedd, neu ar draws rwydwaith y DU.
Mae tenantiaid wedi dechrau perchenogi eu cymdogaeth leol fel Gibby Green Fingers, a Gardd Gymunedol Margaret Avenue yng Ngholcot, y Barri.
Yn ddiweddar treuliodd grŵp o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Colcot fore â Thîm Buddsoddi Cymunedol y Fro, yn peintio teiars yng Ngardd Gymunedol Margaret Avenue.
Dywedodd y Maer, y Cyng. Leighton Rowlands: “Roedd yn wych gweld disgyblion a thrigolion yn gwirfoddoli i wella Margaret Avenue. Mae gweddnewid ardaloedd yn y gymuned fel yr un hon yn achos gwerth chweil a gobeithio y gall cynifer o bobl â phosibl roi o’u hamser a helpu i wneud gwahaniaeth i Golcot.”

Mae’r Swyddogion Buddsoddi a Chynnwys Cymunedol yn gwahodd trigolion i ddigwyddiad gwirfoddol pellach ar ddydd Mawrth 3 Gorffennaf. Bydd barbyciw yno, a gall trigolion wirfoddoli yn Margaret Avenue o 3.30pm i 6.00pm. Bydd brwsys paent ar gael ar y diwrnod.
Dywedodd y Swyddog Buddsoddi a Chynnwys Cymunedol, Mark Ellis: “Rydym yn ceisio cael cynifer o bobl yn y gymuned â phosibl i gymryd rhan yng ngweddnewidiad Margaret Avenue, gan ei fod ynghanol ystâd Colcot. Mae plant ysgol Ysgol Gynradd Colcot a’r trigolion wedi gweithio’n galed heddiw i beintio teiars, rheiliau, a rhoi offer at ei gilydd a gaiff ei ddefnyddio yn yr ardd.
“Gobeithio y gall mwy o drigolion wirfoddoli ac ymuno â ni yn y digwyddiad nesaf ar 3 Mehefin, a’n helpu i ddatblygu’r ardal, ac ar ôl cwblhau popeth bydd yn rhywle y gall trigolion ymfalchïo ynddo, a’i ddefnyddio bob dydd.”
I gael rhagor o wybodaeth am y diwrnod gwirfoddoli, cysylltwch â Shani neu Mark, Swyddogion Buddsoddi a Chynnwys Cymunedol ar 07813 068324.
