Cynllun i fynd i'r afael â digartrefedd wedi eu llunio gan Gyngor y Fro a'i Bartneriaid
Daeth elusennau, grwpiau gwirfoddol, cymdeithasau tai a chynrychiolwyr o Gyngor Bro Morgannwg ynghyd yn ddiweddar i adolygu’r modd y maent yn mynd i’r afael â digartrefedd yn y Fro.

Bydd dulliau gwell o weithio bellach yn sicrhau bod cymorth wrth law i unrhyw un dan fygythiad o ddigartrefedd.
Hwyluswyd y digwyddiad gan Shelter Cymru. Cymerodd cynrychiolwyr o Gwalia, Wales and West Homes, Atal-y-Fro a nifer o sefydliadau eraill sy’n gweithio yn y Fro, ran yn y sesiynau gweithdy.
Agorwyd y digwyddiad gan y Cynghorydd Andrew Parker, yr Aelod Cabinet dros Dai. Dywedodd y Cyng. Parker:
“Mae trefniadau gweithio ar y cyd yn hanfodol os ydym am wireddu ein huchelgais o gael gwared â digartrefedd yn y Fro. Mae ein tîm tai ar y rheng flaen yn mynd i’r afael â’r broblem ond y gwirionedd yw heb gefnogaeth gan ystod eang o bartneriaid ni fyddai modd i ni gynnig gwasanaeth cyfoes.
“Yn y blynyddoedd diweddar rydym wedi gallu symud ein gwaith o reoli argyfyngau i atal. Mae hyn wedi cael effaith anferth ar gannoedd o fywydau. Yn unol â newidiadau deddfwriaeth diweddar rydym yn creu rhwyd ddiogelwch gyfoes sy’n golygu na wrthodir cymorth i unrhyw un. Fel rhan o’r gwaith hwn mae gofyn i’r Cyngor wneud adolygiad ar ddigartrefedd a chynhyrchu strategaeth digartrefedd.
“Ein dymuniad yw fod hyn mor gadarn a seiliedig ar wybodaeth ag y bo modd a dyma pam ein bod wedi gwahodd Shelter Cymru i gynnal y digwyddiad. Bydd yr adborth a’r awgrymiadau a dderbyniwn bellach yn cael eu distyllu, a chyda chymorth y rheiny oedd yn bresennol ar y diwrnod, yn creu strategaeth well ar gyfer y Fro.”
Un o’r pethau y canolbwyntiwyd arnyn nhw yn ystod y digwyddiad oedd dadansoddiad o farn y rheiny a oedd wedi ceisio cymorth gan dîm digartrefedd y Cyngor yn ystod y misoedd diwethaf. Casglwyd y rhain gan arolwg annibynnol o ddefnyddwyr gwasanaethau a wnaed gan Gwalia.
Dywedodd Mark Lawrence, Ymgynghorydd Digartrefedd o Shelter Cymru:
“Mae canlyniadau’r arolwg yn dangos cystal gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yn y Fro, i raddau helaeth yn sgil perthnasoedd gwaith da rhwng yr holl asiantaethau dan sylw. Mae defnyddwyr gwasanaeth yn dweud wrthym fod tîm y Cyngor yn eu trin â pharch, yn anrhydeddus ac yn cynnig cyngor mewn modd syml ac heb farnu. Mae gwasanaeth cwsmeriaid o’r fath mewn amgylchiadau sydd yn aml yn heriol iawn i’w gymeradwyo ac yn dangos y llwyfan cadarn sydd gennym i weithio arno.”
Bydd y Cyngor yn cyhoeddi ei strategaeth digartrefedd newydd yn hwyrach eleni.