Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 19 Mis Mehefin 2018
Bro Morgannwg
Barri
Mae’r arddangosfa aml-gyfrwng gyffrous hon yn gymysgedd wych o waith celf gan fyfyrwyr o bob lefel, o TGAU i Ddiploma Uwch a Graddau.
I’r rhan fwyaf o bobl dyma’u cyfle cyntaf i arddangos mewn oriel broffesiynol a deall y broses o osod a goruchwylio arddangosfa.
Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Fel Cyngor, rydym wedi cefnogi’r Coleg ers dros 10 mlynedd ac rydym yn falch iawn o allu cynnal arddangosfa o’r fath eto. Mae yna amrywiaeth fawr o waith celf ardderchog ar ddangos, a gobeithiwn y bydd yr arddangosfa yn helpu artistiaid ar eu taith broffesiynol i astudiaethau pellach a gyrfa yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol.”
Mae arddangosfa Coleg Caerdydd a’r Fro i’w gweld tan ddydd Sadwrn, a bydd sioe gyffrous o waith celf gan ddisgyblion TGAU a Safon Uwch yn dilyn.
Mae’r arddangosfa’n dathlu troi ysgolion cyfun Bryn Hafren a’r Barri yn ysgolion cyd-addysgol.
I gael rhagor o wybodaeth am hyn, arddangosfeydd y dyfodol a digwyddiadau'r oriel, ewch i www.bromorgannwg.gov.uk