Mae ysgolion Bro yn uno i arddangos gwaith celf newydd yn Arddangosfa Oriel Gelf Ganolog
Mae arddangosfa o waith celf TGAU a lefel A gan ddisgyblion Ysgolion Cyfun Bryn Hafren a'r Barri yn cael ei harddangos yn Oriel Gelf Ganolog y Barri.
Mae'r arddangosfa o'r enw 'Mixing It' yn ddathliad o'r ddwy ysgol fel ag y maent heddiw, a hefyd yn nodi'r newidiadau sydd ar y gweill ym mis Medi pan fydd y ddwy yn dod yn ysgolion cydaddysgol.
Yn y digwyddiad, a agorwyd yn swyddogol ar ddydd Sadwrn 7 Gorffennaf, roedd mwy na 70 o ddisgyblion a'u teuluoedd yn bresennol, ynghyd â llywodraethwyr yr ysgol, y cyn Ddirprwy Bennaeth, Carole Evans, a'r arlunydd a chyn-bennaeth celf yn Ysgol Bryn Hafren, Jean Francis.

Mae amrywiaeth o waith celf gan gynnwys paentiadau, gwaith cerameg a gwaith 3D i'w gweld, sy’n rhoi cipolwg ar y ffordd y gellir defnyddio'r celfyddydau i herio a galluogi pobl ifanc i fynegi eu barn, drwy arsylwadau, ymchwil, emosiynau a theimladau.
Agorwyd yr oriel yn swyddogol gan yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, y cynghorydd Bob Penrose, a dywedodd ef: "Mae'r gwaith celf yn llawn egni, syniadau ac o ansawdd a safon eithriadol o uchel. Mae'r syniadau newydd yn arloesol, yn unigryw, yn procio'r meddwl, yn llawn dychymyg ac yn adlewyrchu'r safonau dysgu creadigol uchel yn y ddwy ysgol.
"Mae'r arddangosfa hon yn gyfle i gyfrannu at eich gyrfa boed hynny yn y celfyddydau neu mewn maes arall ac mae modd cynnwys gwybodaeth amdani yn eich CV, mewn ceisiadau i Brifysgol ac wrth ymgeisio am swyddi. Rwy'n siŵr eich bod chi a'ch teuluoedd yn falch iawn o'ch llwyddiannau."
Mae cyrff llywodraethu'r ysgolion yn gwahodd cyn-ddisgyblion i rannu atgofion am eu dyddiau ysgol yn Ysgol Bryn Hafren ac Ysgol Gyfun y Barri.
Gellir e-bostio ffotograffau at BarryTransformation@valeofglamorgan.gov.uk
Mae'r arddangosfa i'w gweld yn yr oriel tan ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf. Ewch i'r wefan i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen.
