Mae Cyngor Bro Morgannwg yn rhagori yn y 2018 Gwobrau Baner werdd
Cynhaliodd Gyngor Bro Morgannwg Gwobrau Baner Werdd flynyddol De Cymru a De-orllewin Lloegr - gan ennill sawl gwobr yn y seremoni.
Mae’r Gwobrau Baner Werdd, sydd wedi bod yn mynd am 22 mlynedd, yn dathlu’r mannau agored gorau ledled y wlad ac yn dangos ansawdd gorau.
Daeth dros 250 o bobl o bob rhan o’r rhanbarth, sy’n gofalu am barciau, gerddi, gerddi prifysgol ac ysbytai, i’r digwyddiad, y tro cyntaf i ddigwyddiad o’r fath gael ei gynnal yng Nghymru.
Cynhaliodd Gyngor y Fro y digwyddiad ochr yn ochr â Chyngor Tref y Barri yn Neuadd Goffa Y Barri, lle roedd Gweinidog Amgylchedd Cymru Hannah Blythyn Minister, Cyfarwyddwr y Cynghrair Parciau Paul Todd a Phrif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus Lesley Jones yn siaradwyr gwadd.
Maer Bro Morgannwg, y Cynghorydd Leighton Rowlands oedd yn cyflwyno’r gwobrau ac yn cyfarch y dorf, a oedd yn cynnwys Arweinydd y Cyngor John Thomas, y Rheolwr Gyfarwyddwr Rob Thomas a staff parciau'r Fro.
Mae Cyngor Bro Morgannwg unwaith eto wedi rhagori yn y Gwobrau Baner Werdd. Cafodd cyfanswm o 10 ardal yn y Sir wobr, sy'n arwydd uchel ei pharch ar lefel ryngwladol o fan awyr agored o'r safon orau.
Mae hyn yn dri’n fwy na’r llynedd ac o ganlyniad, y Fro sydd â'r mwyaf yng Nghymru ac eithrio un sir arall.
O’r 22 o Gynghorau yng Nghymru, dim ond Caerdydd, sy’n sylweddol fwy ac sydd â 12 o Faneri Gwyrdd, sy’n rhagori ar y Fro. Mae Abertawe a Chasnewydd yn bell ar ein holau.
Eleni derbyniodd 3 o barciau Bro Morgannwg eu Gwobr Baner Werdd gyntaf; Parc Gwledig a Phentref Canoloesol Llynnoedd Cosmeston, Parc Gwledig Porthkerry a Pharc Gladstone.
Hefyd yn y Fro, cafodd y Cymin ym Mhenarth a Mynwent Merthyr Dyfan y Barri, sy’n cael eu cynnal a'u cadw gan eu cynghorau tref perthnasol, Wobrau Baner Werdd.
Ymhlith y gerddi a gafodd wobrau cymunedol roedd Gardd Gymunedol y Barri, Coetiroedd Llwynbedw, Little Hill Brock Street, Gardd Nightingale, Perllan Wyllt Gwenfô, Gardd Ffiseg y Bont-faen, Gwarchodfa Natur Leol Cwmtalag, Perllan Elizabethaidd, Gerddi'r Hen Neuadd, Cae Perllan Uchaf Gwenfô, Perllan Gymunedol Gwenfô, a Pherllan Gymreig Gwenfô.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng. John Thomas: “Roedd hi’n bleser cynnal Gwobrau'r Faner Werdd a hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn gysylltiedig â chynnal y digwyddiad hynod lwyddiannus hwn.
“Mae'n bleser o'r mwyaf gennyf fod y Fro unwaith eto wedi rhagori ar y disgwyliadau. O ystyried ein hadnoddau o gymharu ag awdurdodau eraill mae cael cynifer o Wobrau Baner Werdd yn gyflawniad cwbl anhygoel ac yn deyrnged i waith caled staff ein parciau. Eu hymrwymiad nhw sy’n sicrhau bod ein mannau gwyrdd yn edrych mor arbennig gydol y flwyddyn.
“Llongyfarchiadau hefyd i grwpiau gwirfoddol a chymunedol sydd wedi cael cydnabyddiaeth am eu gwaith caled parhaus.
“Mae’r safon i ennill statws Baner Werdd yn hynod uchel ac mae llawer iawn o ymdrech yn cael ei roi y tu ôl i'r llenni i sicrhau bod gan drigolion gynifer o ardaloedd awyr agored yn y Fro i'w mwynhau."

Dywedodd Lucy Prisk, Cydlynydd Baner Werdd o Cadwch Gymru'n Daclus: “Roedd e’n wych cael y cyfle i ddathlu cyflawniadau staff a gwirfoddolwyr ledled y wlad sy’n gweithio mor galed i gynnal safonau’r Wobr Baner Werdd! Ein hymroddiad a’u brwdfrydedd nhw sydd wedi ein galluogi ni i ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall ar gyfer y Gwobrau Baner Werdd yng Nghymru. Hoffwn ddiolch i Neuadd Goffa’r Barri a Chyngor Bro Morgannwg am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl.
“Byddwn yn annog pawb i fentro i’r awyr agored yr haf hwn i fwynhau’r parciau a’r mannau gwyrdd gwych sydd gennym ni ar garreg y drws.”