Mae Cyngor y Fro yn dadlau’r hawl i bleidleisio yng ngweithdy EqualiTeas
Gwnaeth y gweithdy EqualiTeas a gynhaliwyd gan Dîm Cofrestru Etholiadol Cyngor y Fro ar y cyd â Chyfranogiad Ieuenctid, wahodd grwpiau i ddadlau a rhannu eu barn ar yr hawl gyfartal i bleidleisio.
Mae EqualiTeas yn gyfle ledled y DU i bobl i ddadlau a dathlu eu hawl i bleidleisio, dros de prynhawn, ac mae’n nodi pen-blwydd Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1928, a oedd yn rhoi hawl gyfartal i ddynion a merched dros 21 oed i bleidleisio.
Ddydd Mercher 26 Mehefin, gwnaeth cynrychiolwyr o ysgolion y Fro, Swyddogion Ymgysylltu Ieuenctid o Lywodraeth Cymru, Fforwm Ieuenctid y Fro a Maer Cyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Leighton Rowlands, gymryd rhan mewn tri gweithdy.

Nod y gweithdai oedd annog trafodaethau ar flaenoriaethau pleidleisio, etholiadau i ddod, a’r heriau i bobl ifanc wrth gofrestru i bleidleisio.
Daeth sesiwn adborth â'r digwyddiad i ben, a rhannwyd syniadau ar sut i gyrraedd pobl ifanc ledled y Fro.
Dywedodd Maer a Phencampwr Ieuenctid y Fro, y Cyng. Leighton Rowlands: “Mae’r Tîm Cofrestru Etholiadol a’r Tîm Cyfranogiad Ieuenctid wedi gweithio’n dda gyda’r genhedlaeth iau dros y blynyddoedd yn cynnwys gweithdai Rock Enrol, sesiynau cofrestru amser cinio ynghyd â chynnal etholiadau Maer Ieuenctid Bro Morgannwg.
“Fodd bynnag, hoffai’r cyngor adeiladu ac ehangu ar y gweithgareddau ymgysylltu ardderchog hyn i sicrhau bod pawb sydd dros 16 oed yn gwybod yn iawn am y buddion o gofrestru i bleidleisio a’u hawl i bleidleisio pan fyddant yn troi’n 18 oed.”
“Mae’n hanfodol ein bod ni'n defnyddio eich profiad i ymgysylltu'n effeithiol ac mae'r gweithdai hyn wedi'u dylunio i gyflawni'r nod hwnnw. Y nod yw cael syniadau newydd y gallwn adeiladu arnynt o amgylch gofynion eich ysgol neu sefydliad, gan gynnwys sut yr ydym yn cyflawni gweithgareddau ymgysylltu i'r amser priodol i wneud hynny."
