Cost of Living Support Icon

 

Teithwyr yn cael eu symud o Fryn Owen yn y Bont-faen

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi llwyddo i symud Teithwyr o Fryn Owen yn y Bont-faen ar ôl cymryd camau cyfreithiol

 

  • Dydd Gwener, 13 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



CivicCawsant eu symud o’r ardal fore Gwener gyda chymorth beilïod yr Uchel Lys, a orfododd orchymyn llys a gafwyd ddoe.


Mae’r Cyngor nawr yn trefnu i glirio llawer o sbwriel o’r safle.


Aeth y grŵp i’r ardal nos Sul, a rhoddodd swyddogion y Cyngor wybod iddynt eu bod yno heb awdurdod ac yn groes i'r gyfraith, a na fyddai hyn yn cael ei oddef.


Rhoddwyd gwybod i’r heddlu, a gwnaethant helpu gyda’r sefyllfa.


Mae’n rhaid dilyn proses lem pan fydd grwpiau Sipsiwn a Theithwyr yn meddiannu tir, a bu’n rhaid dilyn hon cyn symud y grŵp.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg, y Cyng John Thomas: “Mae’n annerbyniol meddiannu tir y Cyngor fel hyn, ac ni fyddwn yn ei oddef.


“Cyn gynted ag y cawsom wybod am y sefyllfa, cymerwyd camau ar unwaith i sicrhau bod y grŵp yn cael ei symud cyn gynted â phosibl.”