Cost of Living Support Icon

 

Pecyn Cymorth Trawsryweddol a gyhoeddir i ysgolion yn y Fro

Mae’r Pecyn Cymorth Trawsryweddol i Ysgolion yn ddogfen gyngor i ysgolion ym Mro Morgannwg; dogfen atgyfeirio i’w defnyddio gan Gyrff Llywodraethu, Penaethiaid a staff ysgolion pe baent yn dod ar draws disgybl â theimladau trawsryweddol.

 

  • Dydd Mawrth, 24 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



Cafodd y ddogfen ei chreu a’i chyhoeddi gan swyddogion addysgol cymwys o Gyngor Bro Morgannwg, sydd â phrofiad a gwybodaeth helaeth yn y maes hwn.

 

Wrth greu’r ‘pecyn cymorth’ hwn, edrychodd swyddogion ar nifer o ddogfennau ac adroddiadau ar y pwnc hwn, sydd wedi’u cyhoeddi’n genedlaethol ac yn rhyngwladol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant:

 

"Diben y ddogfen yw sicrhau lles a chydraddoldeb yr holl ddisgyblion yn ysgolion Bro Morgannwg a sicrhau eu bod yn cael eu diogelu a’u cefnogi.

 

"Ond hoffwn bwysleisio mai dogfen gyngor yw'r ddogfen ac nid rywbeth sy’n orfodol i unrhyw un o'n hysgolion."

 

Mae Cabinet y Cyngor wedi cyfeirio at y ddogfen hon yn flaenorol ac mae wedi cael ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Craffu ar Ddysgu a Diwylliant.

 

Fel yr argymhellwyd gan y Pwyllgor Craffu, bydd y ‘pecyn cymorth’ yn destun adolygiad blynyddol i sicrhau ei fod wastad yn gyfredol, ystyrlon a pherthnasol i'r pwnc hwn.

 

Mae awdurdodau lleol eraill, sy’n rhan o Gonsortiwm (Addysg) Canolbarth y De, bellach yn defnyddio’r ddogfen hon fel canllaw i greu eu pecyn cymorth eu hunain i ysgolion.