Cost of Living Support Icon

 

Lleng Brydeinig Penarth yn rhoi £2000 tuag at adfywio cofeb Parc Alexandra

MAE Lleng Brydeinig Penarth wedi rhoi £2,000 i Gyngor Bro Morgannwg tuag at adfywio'r gofeb ym Mharc Alexandra Penarth.

 

  • Dydd Iau, 12 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg

    Penarth



cenotaphDerbyniodd y Cyng. Geoff Cox, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros y Gwasanaethau Cymdogaeth a Thrafnidiaeth a’r Cyng. Janice Charles, Cynrychiolydd y Lluoedd Arfog, siec gan Gadeirydd y Lleng Brydeinig, Phil Morris.


Bydd y cyfraniad hwn yn helpu tuag at gyfanswm cost y project, sef £10,000, gyda’r arian Adran 106 a sicrhaodd y Cyngor gan ddatblygiadau lleol yn talu am y gweddill.
Oblegid y rhodd, bydd modd defnyddio’r £2,000 o arian Adran 106 mewn meysydd eraill.


Bydd y gwaith yn cynnwys adfywio’r gofeb yn drylwyr, yn cynnwys glanhau’r gwenithfaen a’r rhannau efydd yn ogystal ag ail-wneud yr ysgrif.


Saif y gofeb ar foncen ym Mharc Alexandra ac fe’i datgelwyd yn gyntaf ar 11 Tachwedd 1924, ond wedi bron i ganrif, mae angen ei drin.

Dywedodd y Cyng. Cox: “Rwyf wrth fy modd yn derbyn y siec hon ar ran y Cyngor, a aiff tuag at y project gwerth chweil hwn.


“Mae Lleng Brydeinig Penarth wedi gwneud cyfraniad hael iawn i helpu i sicrhau y caiff y gofeb bwysig hon ei hadfer i’w bri.


“Mae’r gofeb yn cynnal cysylltiad pwysig â’r gorffennol ac i bobl yr ardal a wnaeth yr aberth eithaf dros y rhyddid mae cymaint ohonom yn ei gymryd yn ganiataol heddiw. Felly, teg yw ei hadfer er mwyn iddi sefyll yn ganolbwynt haeddiannol ym Mharc Alexandra.”