Parc Romilly yn croesawu Cyril y wiwer fel rhan o app realiti estynedig newydd
Cafodd yr app ei greu gan stiwdio creadigol JAM o’r Bont-faen, ac mae'r llwybr coed Realiti Estynedig drwy Barc Romilly yn cyflwyno gwiwer o'r enw Cyril.
Cafodd yr app ei ariannu gan Chwaraeon Cymru, ag arian Chwarae Cymru Gyfan, gan Lywodraeth Cymru, a chan adran parciau a mannau agored Cyngor Bro Morgannwg.
Mae’r pecyn gweithgaredd yma yn rhan o raglen i annog plant a theuluoedd i ddod am wibdaith i’r parciau, arfordir, a chefn gwlad y Fro.
Mae’r gêm yn dechrau wrth ddarllenfeydd y parc ger pob mynedfa. Mae dau lwybr i ddewis o’u plith, (yn y Gymraeg ac yn Saesneg) y llwybr hir sy'n cymryd awr, a'r llwybr byr, sy'n cymryd 30 munud. Bydd Cyril yn rhannu ffeithiau am y gwahanol fathau o goed wrth eich tywys drwy’r parc.
Mae’r app ar gyfer pobl o bob oed, ac rydyn ni’n eich herio i gystadlu’n erbyn eich ffrindiau a’ch teulu i gyrraedd pen y llwybr yn gyntaf.
Dewch o hyd i rannau cudd o’r parc a chwaraewch y gêm chwilio am ddail wrth i chi ychwanegu at eich casgliad o goed ar eich map rhithiol o'r parc.
Does dim rhaid mewngofnodi na chofrestru i chwarae. Bydd y gêm yn cadw'ch cynnydd wrth i chi gerdded drwy'r parc.
Dywedodd Jonathan Greatrex, Swyddog Parciau a Mannau Agored Cyngor y Fro: “Mae gan Barc Romilly goetiroedd godidog sydd ag amrywiaeth arbennig o goed, felly mae’n hyfryd ein bod ni'n gallu ei fywiogi gyda'r app.
"Mae modd lawrlwytho’r app yn rhad ac am ddim a bydd yn cael ei lansio mewn pryd ar gyfer gwyliau’r ysgol. “Gobeithio bydd pawb yn mwynhau dysgu mwy am goed yn Romilly a phopeth arall sydd gan y parc i’w gynnig.
"Diolch i JAM Creative a ddaeth â’r cyfan i fodolaeth, ac i Lywodraeth Cymru, Chwarae Cymru, Chwaraeon Cymru, a Chyngor Bro Morgannwg sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.”
Does dim angen cysylltu â’r rhyngrwyd diwifr na 3G i ddefnyddio’r app. Wedi dweud hynny, bydd angen cysylltiad GPS ar eich ffôn i chwarae'r gêm. Yn anffodus, does dim modd chwarae’r gêm ar iPad Apple gan nad oes ganddyn nhw gysylltiad GPS.
Chwiliwch am Romilly Park AR Tree Trail by JAM Creative ar AppStore a Google Play am ddim.
