Yr Heddlu a Chyngor Bro Morgannwg yn cyflwyno rhybuddion llym dros neidio oddi ar Drwyn y Rhws
MAE ymwelwyr i Drwyn y Rhws yn cael eu rhybuddio bod perygl o farwolaeth, anafiadau difrifol a dirwyon o hyd at £500 os ydynt yn neidio oddi ar glogwyni i'r dŵr yn ardal yr hen chwarel isod.

Mae grwpiau o bobl ifanc wedi bod yn ymgynnull yn y safle yn ystod y tywydd braf yn ddiweddar, gyda rhai ohonynt yn neidio i'r dŵr o uchder sylweddol.
Mae pobl wedi marw, wedi’u parlysu, wedi dioddef esgyrn yn chwalu ac anafiadau eraill all newid bywydau o ganlyniad i hyn.
Mae dyn lleol wedi'i barlysu ar ôl torri ei gefn wrth neidio i'r dŵr o Drwyn y Rhws ychydig flynyddoedd yn ôl, a bu llawer o farwolaethau yn Llynnoedd Cosmeston, ardal hen chwarel arall, ar ôl i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau o'r fath sydd bellach wedi'u gwahardd.
Yn ogystal i’r peryglon a achosir gan gerrig yn ymwthio allan o waliau anwastad y chwarel, mae peryglon hefyd o dan y dŵr, gan gynnwys peiriannau o hanes diwydiannol y safle, a gall y dŵr oer achosi trafferth i bobl hefyd.

Dywedodd Miles Punter, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd a Gwasanaethau Tai Cyngor Bro Morgannwg: "Rydym yn awyddus i annog rhieni'r bobl ifanc sydd ynghlwm i gadw eu plant yn ddiogel drwy sicrhau eu bod yn defnyddio traethau'r Fro sydd ag achubwyr bywyd.
“Nid difetha hwyl pobl yw'r nod, ond yn hytrach cadw pobl yn ddiogel rhag peryglon go iawn. Mae Cymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau yn cydnabod nofio a neidio i safleoedd hen chwareli yn beryglus ofnadwy gyda llawer o bobl ifanc yn colli bywydau yn y DU mewn blynyddoedd diweddar. Rydym yn ceisio gweithredu cyn i rywun gael ei ladd neu gael anafiadau difrifol.”
Mae Is-ddeddfau sy’n llywodraethu’r safle yn gwahardd nofio, a gall unrhyw un sy’n mynd i'r dŵr wynebu erlyniad troseddol neu Hysbysiad Cosb Benodedig.
Bydd mwy o swyddogion gorfodaeth y Cyngor, yr heddlu, Gwasanaeth Tân a Gwyliwr y glannau gwaith yn yr ardal, yn edrych i atal unrhyw ymddygiad gwrthgymdeithasol yn yr ardal, gyda chosbau fel Gorchmynion Ymddygiad Gwrthgymdeithasol yn bosibilrwydd am droseddau o'r fath.
Dywedodd Sarsiant yr Heddlu Mark John, Sarsiant Diogelwch Cymunedol Bro Morgannwg: “Mae neidio oddi ar y clogwyni, neu ‘tombstoning’ fel y mae’n cael ei alw, yn ymddangos yn hwyl ond y gwirionedd yw ei fod yn anghyfrifol tu hwnt. Mae’n hynod beryglus, gan arwain at nifer o farwolaethau ledled y wlad.
Gall cymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath nid yn unig beri risg i’r cyfranogwr, ond hefyd i bobl eraill megis y cyhoedd a’r gwasanaethau brys.
Mae’r is-ddeddfau sydd ar waith yn Nhrwyn y Rhws yno am reswm, a byddwn yn gweithio gyda’n cydweithwyr drwy gydol yr haf i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â hwy."