Cost of Living Support Icon

 

Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth yn creu murlun celf cymunedol yng Ngharnifal Haf Penarth

Bu plant a phobl ifanc ym Mhenarth yn cymryd rhan mewn gweithdy celf mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth am diroedd Y Cymin yn ddiweddar. 

 

  • Dydd Mercher, 18 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



 

Ar ddydd Sul 15 Gorffennaf, cynhaliodd Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth weithdy creadigol yng ngharnifal haf Penarth i godi ymwybyddiaeth am y gwaith y maent wedi’u wneud, a chreu darn o gelfyddyd gan blant a phobl ifanc Penarth.

 

Mewn ymgynghoriad ar y ffordd orau i ddefnyddio Tiroedd y Cymin, adeilad cymunedol, datgelwyd bod 263 o bobl ifanc o Benarth eisiau mwy o gyngherddau, gwyliau, gweithgareddau yn seiliedig ar thema, gweithgareddau awyr agored a man celf cymunedol yn eu tref.

 

 

PYA members

 

 

Cyngor ieuenctid ym Mhenarth ydy Grŵp Gweithredu Ieuenctid Penarth ac mae'n gweithio gyda'r sawl sy'n gwneud penderfyniadau i sicrhau bod barn a syniadau pobl ifanc yn cael eu hystyried.  

 

Mae’r aelodau yn cymryd rhan mewn projectau a gweithgareddau i wella’r ardal i bobl ifanc sy’n byw yn eu tref.

 

Caiff aelodau, a elwir yn gynghorwyr ieuenctid, eu dewis yn bennaf gan bobl ifanc o ysgolion a sefydliadau ieuenctid yn y dref i gynrychioli eu barn, syniadau a diddordebau a gweithredu ar eu rhan.

 

I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â Gweithredu Ieuenctid y Fro  ewch i’r wefan neu anfonwch e-bost at y tîm.  

 

 

mural by PYA