Cost of Living Support Icon

 

Cynlluniau chwarae am ddim dros yr haf i blant y Fro

Mae Tîm Byw’n Iach Cyngor Bro Morgannwg wedi trefnu rhaglen o gynlluniau chwarae, sesiynau chwaraeon a diwrnodau hwyl i’r teulu dros yr haf.

 

  • Dydd Mawrth, 31 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



Ar y cyd ag ystod o bartneriaid ledled y wlad, targedir y cynlluniau chwarae dan do i blant 5-11 oed a all gymryd rhan mewn gweithgareddau fel celf a chrefft, gemau awyr agored enfawr, a gweithgareddau chwaraeon.

 

Mae cyfres o sesiynau Ceidwaid Chwarae’n eu cynnal mewn parciau a mannau agored i blant a’u teuluoedd. Gallai’r gweithgareddau gynnwys chwarae, gemau awyr agored ac adeiladu den.

Bydd Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn y Parc Canolog, y Barri, ar ddydd Gwener 17 Awst o 11am i 3pm.

 

Vale sports logo

 

Mae cyfres o sesiynau Ceidwaid Chwarae’n eu cynnal mewn parciau a mannau agored i blant a’u teuluoedd. Gallai’r gweithgareddau gynnwys chwarae, gemau awyr agored ac adeiladu den.

 

 

 

Bydd Diwrnod Hwyl i’r Teulu yn y Parc Canolog, y Barri, ar ddydd Gwener 17 Awst o 11am i 3pm.

 

 

Ar y cyd â Chyngor Cymuned Dinas Powys a Chymdeithas Tai United Welsh, bydd y Tîm Datblygu Chwarae’n cynnal rhaglen o weithgareddau chwarae yn:

 

 

Nghanolfan Gymunedol Murchfield

 

  • Cynllun Chwarae-  Dydd Llun 30 Gorffennaf – Iau 2 Awst, 10am – 12pm

  • Ceidwaid Chwarae - Dydd Llun 30 Gorffennaf – Iau 2 Awst, Heol Caerleon,  2 – 4pm

  • Diwrnod Hwyl i’r Teulu - Dydd Gwener Awst 3 - 11 – 3pm

 

 

Pafiliwn y Wig

 

  • Ceidwaid Chwarae - Pafiliwn y Wig,  7  14, 21  & 28 Awst o 2 – 4pm

  • Cynllun Chwarae - Neuadd Llantonian , dydd Llun 6 – Gwener 10 o 10 – 12pm

  • Sesiynau Allan i Chwarae  - Neuadd Llantonian o 1 – 3pm.

 

 

Sesiynau Ceidwaid Chwarae a Chynllun Chwarae ar draws y Fro:

 

  • Ceidwaid Chwarae y Barri  -  Forest Park, Heol Salisbury, 16 a 23 Awst, 10 – 12pm

  • Ceidwaid Chwarae a sesiynau chwarae - Sgwar Plassey, 16 a 23 Awst, 2 – 4pm

  • Cynllun Chwarae Sain Tathan - Canolfan cymunedol Saint Tathan,  20 a 22 Awst, 1-3pm

     

 

 

Ni allwch gadw llefydd i’r sesiynau chwarae ymlaen llaw, ond bydd angen gwblhau ffurflen gofrestru ar y diwrnod cyntaf.

 

 

Am fwy o wybodaeth, danfonwch ebost i’r tim ar playdevelopment@valeofglamorgan.gov.uk neu ar 01446 704896. Gallwch hefyd ymweld â thudalen Cyngor Bro Morgannwg @valesportsplay.