Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor yn gweithredu yn erbyn Teithwyr a feddiannodd Caeau'r Bont-faen

 

Mae Cyngor Bro Morgannwg wedi cymryd camau brys ar ôl i Deithwyr feddiannu Caeau'r Bont-faen heb awdurdod.

 

  • Dydd Mawrth, 10 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



Aeth y grŵp i’r ardal nos Sul, ac ers hynny mae swyddogion y Cyngor wedi rhoi gwybod iddynt eu bod nhw'n ymddwyn heb awdurdod ac yn groes i'r gyfraith, a ni fydd yn cael ei oddef.

 

Mae’r heddlu’n ymwybodol ac mae tîm cyfreithiol y Cyngor yn bwrw ymlaen ar hyn o bryd i waredu’r meddianwyr presennol.

 

Mae’r Teithwyr wedi cael rhybudd gadael o 24 awr ac os nad ydynt yn cydymffurfio â’r hysbysiad, bydd y Cyngor yn cymryd camau cyfreithiol fel mater brys.

 

Dywedodd Arweinydd Gweithredol y Cyngor a'r Cabinet Aelod dros Berfformiad ac Adnoddau, Cyng John Thomas: “Mae meddiannu tir comin fel hyn yn gwbl annerbyniol, gan nad yw’r ardal wedi'i ddylunio at ddibenion fel hyn.

 

 “Rydym yn cymryd y mater hwn yn ddifrifol iawn ac yn gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod y sefyllfa yn gallu cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl."