Cost of Living Support Icon

 

Ymgynghoriad ar strategaeth parcio ddrafft i’w lansio ar 6 Awst

Mae Cabinet Cyngor Bro Morgannwg wedi cytuno i ymgynghori ar strategaeth parcio ddrafft.

 

  • Dydd Mawrth, 31 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



Bydd yr ymgynghoriad o ddydd Llun 6 Awst i ddydd Gwener 28 Medi 2018.

 

Mae’r strategaeth parcio ddrafft yn cynnwys cynigion i gyflwyno taliadau parcio mewn canol trefi, meysydd parcio arfordirol, mewn parciau gwledig ac ar y stryd mewn canolfannau tref a lleoliadau arfordirol.

 

Anogir trigolion, busnesau lleol a rhanddeiliaid eraill roi eu barn ar y cynigion. Gallant wneud hynny ar-lein neu drwy fynd i un o’r sesiynau galw heibio a gynhelir drwy gydol yr ymgynghoriad.

 

Dywedodd y Cyng John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae’r Cyngor am gyflwyno strategaeth barcio am nifer o resymau. Mae angen trosiant mewn canol trefi, a bydd rheoli llefydd parcio ceir yn sicrhau bod modd hyrwyddo hyn a’i gyflawni, er budd ein busnesau canol tref a’n hymwelwyr.

 

“Mae hefyd yn hollbwysig i ni adennill costau cynnal llefydd parcio, a sicrhau incwm ychwanegol i ail-fuddsoddi mewn canol trefi a chyrchfannau arfordirol.

“Mae ein cynigion i ganol trefi gynnig parcio am ddim am gyfnod byr, ond codi am arosiadau hwy.

“Er bod hon yn strategaeth newydd ym Mro Morgannwg, mae taliadau parcio’n gyffredin yng nghanol trefi a lleoliadau arfordirol ledled Cymru. Nod yw ymgynghoriad hwn yw i nodi lefel taliadau sy’n rhesymol gan drigolion ac ymwelwyr, heb effeithio’n andwyol ar ein gallu i reoli’r cyfleusterau hynny’n y dyfodol.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am y strategaeth ddrafft ac i ddweud eich dweud, ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/ymgynghoriadparcio o ddydd Llun 6 Awst.