Cost of Living Support Icon

 

Dirwyo perchennog tŷ bwyta yn y Barri am weini bwyd anniogel

Mae perchennog tŷ bwyta yn y Barri wedi ei ddirwyo am greu pryd oedd yn ‘risg niwed neu farwolaeth sylweddol’.

 

  • Dydd Llun, 02 Mis Gorffenaf 2018

    Bro Morgannwg



Ar ddydd Gwener, 29 Mehefin, yn Llys Ynadon Caerdydd, plediodd Ghungfai Li, perchennog ‘Wongs’ yn Broad Street yn euog i un cyhuddiad o osod bwyd anniogel ar y farchnad, dan reoliadau Bwyd Cyffredinol 2004.

 

Cafodd Mr Li ei ddirwyo yn sgil pryd a brynwyd ar brawf mewn perthynas ag alergeddau, ar 25 Mai y llynedd.   Archebwyd reis arbennig wedi ei ffrio heb wy, a dywedwyd wrth y busnes fod y pryd ar gyfer rhywun oedd ag alergedd i wyau. Fodd bynnag, canfuwyd wedyn bod y reis yn cynnwys 77 gwaith yn fwy o wy nag sydd ei angen i greu adwaith mewn person ag alergedd.

 

Gwnaed y prawf gwta 3 mis wedi i brawf anffurfiol arall gael ei gynnal yn Chwefror 2017, a methwyd y prawf hwnnw hefyd. Roedd swyddogion wedi ymweld â’r busnes i roi cyngor rhwng y ddau brawf.

 

Derbyniodd y Barnwr Rhanbarth asesiad yr erlyniad yn llawn, asesiad oedd yn nodi bod y diffynnydd wedi anwybyddu’r gyfraith yn ddifrifol. Dywedodd e bod yn amlwg nad oedd gan y busnes systemau diogel ar waith yn sgil y prawf cyntaf i atal wy rhag cael ei gynnwys yn y pryd.

 

Derbyniodd hefyd achos yr erlynydd, bod y risg o niwed yn un Categori 1, gyda risg sylweddol o niwed neu farwolaeth, er nad niweidiwyd unrhyw un yn yr achos. Derbyniodd yr amddiffyniad yr asesiad hwn hefyd.

 

Wrth liniaru, dywedodd cyfreithiwr y diffynnydd, Mr Lee, fod y diffynnydd wedi rhedeg y busnes ers 9 mlynedd, heb euogfarnau o gwbl yn ei erbyn.

 

Dywedodd fod Mr Li a’i wraig yn brawychu rhag yr hyn oedd wedi digwydd, a’u bod yn ystyried gwerthu’r busnes, rhag bod yn yr un sefyllfa eto. Roedden nhw’n derbyn bod eu systemau’n ddiffygiol a bod materion yn codi gydag iaith.

 

Derbyniodd y Barnwr Rhanbarth ble cynnar y diffynnydd o euogrwydd ac nad oedd wedi bod mewn trafferth o’r blaen. Rhoddodd orchymyn cymunedol o 12 mis, gyda 300 o oriau o waith di-dâl.

 

Fe’i gorchmynnwyd hefyd i dalu costau o £575 a gordal dioddefwr o £85. Dywedodd wrth Mr Li, y byddai, pe bai’r troseddau yn digwydd eto, yn cael ei anfon i’r carchar yn ei farn ef.

 

 

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet sy’n gyfrifol am y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir yng Nghyngor Bro Morgannwg, y Cynghorydd Hunter Jarvie: “Mae’n holl bwysig bod perchnogion bwytai bob amser yn ofalus wrth weini bwyd i’r cyhoedd ac mae’n annerbyniol y gall systemau annigonol achosi risg sylweddol o niwed neu farwolaeth.

 

“Rwy’n gobeithio y bydd yr erlyniad hwn yn rhybudd i’r busnes hwn ac i eraill a bod perchnogion yn sylweddoli na fydd Cyngor Bro Morgannwg yn caniatáu hyn, yn enwedig o ran diogelwch y cyhoedd.”

 

 Wongs takeaway Barry