Oedolion sy’n dysgu yn ennill clod yn seremoni flynyddol Gwobrau Ysbrydoli y Fro
Cafodd dysgwyr a gwirfoddolwyr o bob rhan o’r Fro eu canmol am eu cyflawniadau mewn noson wobrau ddiweddar a gynhaliwyd yn Oriel Gelf Ganolog y Barri.
Trefnwyd Gwobrau Ysbrydoli’r Fro gan Rwydwaith Addysg Oedolion y Fro sydd wedi’i ffurfio o amrywiaeth o sefydliadau partner sy’n rhoi cyfleoedd dysgu a gwirfoddoli yn y Fro.
Bob blwyddyn mae’r rhwydwaith yn cymryd rhan yng Ngŵyl Flynyddol Wythnos Oedolion sy’n Dysgu sy’n cael ei threfnu gan y Sefydliad Dysgu a Gwaith i ddathlu a hyrwyddo dysgu.
Ddydd Llun 2 Gorffennaf, estynnodd Gwobrau Ysbrydoli’r Fro groeso i ddysgwyr a gwirfoddolwyr a oedd wedi’u henwebu gan diwtoriaid, mentoriaid a staff o Goleg Caerdydd a’r Fro, Cymunedau am Waith, Addysg Oedolion Bro Morgannwg, Dechrau'n Deg a Chanolfan Ddysgu’r Fro.
Roedd y dysgwyr wedi bod yn cyfranogi mewn amrywiaeth eang o gyrsiau dysgu a hyfforddiant gan gynnwys Cyfrifiaduron, Cwnsela, Mathemateg a Saesneg ac mewn rhai achosion roedd y dysgwyr wedi goresgyn anableddau, hyder a materion gorbryder ac iechyd meddwl i gyflawni eu nodau.

Meddai’r Cynghorydd Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Sgiliau a gyflwynodd y gwobrau ar y noson,: “Llongyfarchiadau i enillwyr enwebedig Gwobrau Ysbrydoli eleni, mae’r hyn rydych wedi’i gyflawni’n llwyr haeddu’r gydnabyddiaeth.
“Mae’n wych gweld bod cynifer o’r enwebeion wedi parhau â’u dysgu, wedi cael cyflogaeth neu wedi gallu gwella eu bywydau a chefnogi eu teuluoedd.”
Enillydd cyffredinol y Gwobrau Ysbrydoli oedd Beryl O’Brien a ddechreuodd fel gwirfoddolwr ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae wedi symud ymlaen o ddysgu ar gwrs rhagflas i gwblhau cwrs gradd, ac mae’n gobeithio graddio ar yr un pryd â’i hwyres.
Enillwyr Gwobr Project Cymunedol Gail Hughes eleni, sy’n cael ei dyfarnu er cof am gyn-gydweithiwr a fu’n gweithio ar gyfer Datblygu Cymunedol Bro Morgannwg, oedd project The Journeys.
Maent yn cynnal project hyder a hunan-barch yng Nghanolfan Dysgu Cymunedol Palmerston.
Ewch i'r wefan am fwy o wybodaeth ar gyrsiau yng Nghanolfan Dysgu Cymunedol Palmerston.
