Admiral i noddi cyfres Penwythnosau Ynys y Barri
Caiff cyfres Penwythnosau Ynys y Barri 2018 eleni ei noddi gan Admiral fel rhan o ddull partneriaeth arloesol i gefnogi digwyddiadau’n cael eu datblygu gan Gyngor Bro Morgannwg.
Bydd Admiral yn noddi’r Penwythnosau am ddim poblogaidd, am y cyfnod chwe wythnos rhwng 21 Gorffennaf a 25 Awst.
Yr Ynys Dân lwyddiannus, oedd digwyddiad cyntaf y gyfres haf, a daeth cannoedd i Ynys y Barri ar ddydd Sadwrn 21 a 22 Gorffennaf.
Dychwelodd yr ardd dân hudol unwaith eto, ac roedd dawnswyr tân o Flame Oz, Parêd Llusernau a Llong Llychlynwyr, gyda môr-ladron, yn diddanu’r dorf.
Dywedodd Rob Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Cyngor Bro Morgannwg: “Ni ddylid tanbrisio pwysigrwydd noddi. Mae’n ffynhonnell incwm bwysig a fydd yn helpu i gynnal a chefnogi gwasanaethau mewn cyfnod pan fo pwysau cynyddol ar gyllidebau.
"Mae penderfyniad Admiral i noddi’r Weekenders yn dilyn penderfyniad Sinclair Group i noddi’r Ŵyl Drafnidiaeth yn gynharach eleni, a’r incwm a dderbyniwyd yn ddiweddar oherwydd y ffilmio sylweddol ar Bier Penarth. Mae hon yn agwedd bwysig ar waith y mae’n rhaid i bob un ohonom ei chroesawu fel ffordd o gefnogi gwaith gwerthfawr ein timau ar draws y sefydliad.”
Mae'r Penwythnosau eleni yn croesawu’r tipi sinema Sinemaes i Ynys y Barri, am y tro cyntaf erioed. Bydd BAFTA Cymru a Bro Morgannwg, yn gweithio mewn partneriaeth ag Into Film, Canolfan Ffilm Cymru ac Archif Genedlaethol Sgrin a Sain Cymru yn cyflwyno Cinemôr.
Mae Cinemôr yn rhaglen tri diwrnod yn dathlu ffilmiau Cymru, yn cynnig arddangosiadau a gweithdai rhwng 27 a 29 Gorffennaf.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Admiral David Stevens: "Rydym wrth ein bodd i noddi Penwythnos Pen-y-bont y Barri dros yr haf ac yn siŵr y bydd y digwyddiad yn llwyddiant mawr.
"Rydym yn falch o gael ein lleoli yng Nghaerdydd a gwyddom fod gennym nifer o staff a'u teuluoedd sy'n byw yn y Fro felly mae'n wych cefnogi rhywbeth sy'n cael effaith gadarnhaol ar y cymunedau y maent yn byw ynddynt."
Yn dilyn y digwyddiadau hyn bydd y Penwythnos Chwaraeon, y Penwythnos Theatr a Hud y Stryd, ac arena ‘Breakout’ y Barri. Bydd y gyfres chwe wythnos yn gorffen gyda’r Sinema wrth y môr, a fydd yn dangos ET The Extra Terrestrial a The Greatest Showman.
Mae mwy o wybodaeth ar y gyfres Penwythnosau Ynys y Barri ar gael yn www.visitthevale.com.
