Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 08 Mis Ionawr 2018
Bro Morgannwg
Mae gwirfoddoli yn gallu helpu codi hyder a datblygu sgiliau newydd, yn ogystal â gwella eich iechyd a lles, a chynnig cyfleoedd i gwrdd â phobl newydd hefyd.
Os ydych chi’n fyw neu eisiau gwirfoddoli yn y Fro, nail ai tu fewn neu du fas, yn ystod yr wythnos neu ar benwythnosau, gallwch ffeindio gyfleoedd drwy Wasanaethau Gwirfoddoli Morgannwg.
Mae bron 500 o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy’r gwasanaeth, yn cynnwys gwirfoddoli gyda phlant, pobl ifanc, mewn ysbytai a hosbisau, ac o fewn y byd chwaraeon a llawer mwy.
Enillodd gwirfoddolwr Steve Hunt, 70, o’r Fro, Gwirfoddolwr gwyrdd y flwyddyn yng Nghymru flwyddyn diweddaf.
Dywedodd Steve Hunt: "Rwy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored ac yn meddwl bod gwirfoddoli yn rhoi boddhad mawr - yn enwedig wrth weld y newidiadau i un o fy hoff barciau. "Rwyf bob amser yn trio gwirfoddoli, ni waeth y tywydd, ac yn clirio coed, gosod giatiau newydd a chreu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt. "Byddwn yn argymell gwirfoddoli i bawb, yn enwedig i bobl sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored."
Dywedodd Steve Hunt: "Rwy’n mwynhau treulio amser yn yr awyr agored ac yn meddwl bod gwirfoddoli yn rhoi boddhad mawr - yn enwedig wrth weld y newidiadau i un o fy hoff barciau.
"Rwyf bob amser yn trio gwirfoddoli, ni waeth y tywydd, ac yn clirio coed, gosod giatiau newydd a chreu cynefinoedd newydd ar gyfer bywyd gwyllt.
"Byddwn yn argymell gwirfoddoli i bawb, yn enwedig i bobl sy’n mwynhau bod yn yr awyr agored."
Os ydych chi a diddordeb gwirffodoli yn y Fro, cysylltwch GVS ar 01446 741706 neu ebostiwch volunteering@gvs.wales
Cymerwch olwg ar y wefan am wahanol gyfleoedd ar draws y Fro.