Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 17 Mis Ionawr 2018
Bro Morgannwg
Rural Vale
Barri
Byddai’r cynnig cyffrous hwn yn cynnwys adeilad ysgol â 210 o leoedd ym mhentref y Rhws, gan gynnig y cyfle i ateb galw lleol sy’n cynyddu yn ogystal â chreu amgylchedd dysgu modern ar gyfer disgyblion a staff presennol yn Ysgol Gynradd Llancarfan, sef hen ysgol Fictoraidd ar safle bach.
Ni fydd y datblygiad yn effeithio ar Ysgol Gynradd y Rhws.
Mae’r project yn costio mwy na £4 miliwn, a byddai hanner y swm hwnnw'n cael ei ddarparu drwy grant gan Lywodraeth Cymru. Mae’n rhan o fuddsoddiad eang ym maes addysg yn y Fro yn rhan o Fand B cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif Llywodraeth Cymru.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Bydd y project hwn yn golygu symud Ysgol Gynradd Llancarfan i gyfleusterau modern iawn a newydd sy’n gallu darparu ar gyfer y nifer fwy o ddisgyblion, y disgwylir iddynt ei mynychu.
“Dim ond rhan o fuddsoddiad helaeth ym maes addysg yn y Fro yw hon, a fydd yn cynnwys gwella cyfleusterau’n sylweddol ym mhob rhan o’r Sir.“Mae gwaith i gyflawni’r nod hwnnw eisoes wedi dechrau a byddwn yn cyhoeddi manylion am gynlluniau eraill dros y misoedd sy’n dod.”