Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 16 Mis Ionawr 2018
Bro Morgannwg
Mwynhaodd pwyllgor yr ysgol, sy’n cynnwys plant o flwyddyn un i flwyddyn pump, wylio clipiau fideo o gyfres ddiweddar y BBC, Blue Planet II, ac ysbrydolwyd y disgyblion i helpu ar ôl gweld yr effaith y mae plastig yn ei chael ar foroedd.
Penderfynodd y pwyllgor ddisodli poteli plastig bach o laeth a gwellt yfed â photeli llaeth mawr gan gwmnïau llaeth lleol. Byddent yn prynu cwpanau amldro ac yn hyfforddi staff yr ysgol ar sut i olchi'r cwpanau a mesur y llaeth yn ofalus fel bod pob plentyn yn cael y swm cywir bob dydd.
Yr athrawon Melissa Davies a Rachel Holley, sy’n aelodau o’r eco-bwyllgor, sydd wedi bod yn trefnu’r prosiect.
Dywedodd Rachel Holley: "Rydyn ni’n siŵr y bydd y newid hwn yn lleihau faint o blastig rydyn ni’n ei wastraffu ac, o ganlyniad, yn helpu i gadw’r môr yn lân a diogel. "A ninnau mor agos at yr arfordir, dwi’n credu bod lleihau gwastraff plastig wedi taro tennyn yng nghalonnau’r plant gan fod y môr yn rhan mor fawr o'u bywydau. Ond dwi hefyd yn credu eu bod i gyd yn mwynhau teimlo bod yr hyn y maent wedi’i wneud yn cael effaith wirioneddol ar y byd. Er ein bod wedi trefnu sawl digwyddiad yn yr ysgol, dyma’r prosiect mwyaf i’r plant fod yn rhan ohono o gryn dipyn. "Dwi’n siŵr mai megis dechrau y mae’r disgyblion ar eu taith, a dwi’n mawr obeithio y gallwn ysbrydoli ysgolion eraill i ymuno â ni a chwarae eu rhan yn helpu i gadw’r blaned yn lân."
Dywedodd Rachel Holley: "Rydyn ni’n siŵr y bydd y newid hwn yn lleihau faint o blastig rydyn ni’n ei wastraffu ac, o ganlyniad, yn helpu i gadw’r môr yn lân a diogel.
"A ninnau mor agos at yr arfordir, dwi’n credu bod lleihau gwastraff plastig wedi taro tennyn yng nghalonnau’r plant gan fod y môr yn rhan mor fawr o'u bywydau. Ond dwi hefyd yn credu eu bod i gyd yn mwynhau teimlo bod yr hyn y maent wedi’i wneud yn cael effaith wirioneddol ar y byd. Er ein bod wedi trefnu sawl digwyddiad yn yr ysgol, dyma’r prosiect mwyaf i’r plant fod yn rhan ohono o gryn dipyn.
"Dwi’n siŵr mai megis dechrau y mae’r disgyblion ar eu taith, a dwi’n mawr obeithio y gallwn ysbrydoli ysgolion eraill i ymuno â ni a chwarae eu rhan yn helpu i gadw’r blaned yn lân."