Y Cyngor yn nodi canmlwyddiant pleidlais i fenwod
Daeth gweithwyr Cyngor Bro Morgannwg a Chynghorwyr lleol ynghyd yn y Barri yn ddiweddar i nodi can mlynedd ers rhoi’r bleidlais i fenywod.

Gwahoddodd tîm Cofrestru Etholiadol y Cyngor bob aelod o staff benywaidd a phob Cynghorydd benywaidd y Fro i ymuno â nhw am lun yn Swyddfeydd Dinesig y Cyngor ac i gynnal sgyrsiau rhwng ffigyrau benywaidd sy’n gweithio ym mhob rhan o lywodraeth leol.
Mae 2018 yn nodi can mlynedd ers i’r Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl gael ei phasio – deddf a roddodd yr hawl i rai fenywod bleidleisio am y tro cyntaf erioed. Mae aelodau tîm Cofrestru Etholiadol y Fro yn gobeithio y bydd eu gwaith o roi sylw i fenywod sy’n gweithio mewn gwleidyddiaeth lleol ar hyn o bryd yn annog mwy o drigolion benywaidd i gofrestru i bleidleisio.
Ymunodd y Cynghorydd Janice Charles, Maer Cyngor Bro Morgannwg, â Swyddog Canlyniadau a Chofrestru Etholiadol y Cyngor a’r Rheolwr Cofrestru Etholiadol, i groesawu eu cydweithwyr â'r posteri "Rwy'n pleidleisio", a dywedodd:
“Aberthodd menywod y gorffennol lawer i'n galluogi ni i bleidleisio a chael dweud ein dweud.
“Mae digwyddiadau fel hyn, a’r dathliadau y byddwn yn eu cynnal ym mis Mawrth ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn bwysig i ddangos y cynnydd a wnaed wrth sicrhau cydraddoldeb ar draws gwleidyddiaeth leol, a byddwn yn parhau â’r gwaith o hyrwyddo’r cydraddoldeb hwnnw. Hoffwn ddiolch i'n holl weithwyr a fy nghyd-gynghorwyr am ymuno â ni i nodi'r canmlwyddiant."
Mae ymgyrch #Pleidlais100 y Comisiwn Etholiadol yn gofyn i fenywod ledled y Deyrnas Unedig ddathlu eu hawl i bleidleisio drwy gyhoeddi lluniau o’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol yn dal y poster “Rwy’n pleidleisio”. Ynghyd â’u lluniau, mae nifer o bobl yn cynnwys atgofion o’r tro cyntaf iddynt bleidleisio.
Gallwch lawrlwytho eich poster yn www.yourvotematters.co.uk/cymru/get-involved/centenary-of-womens-suffrage a rhannu eich llun â’r Cyngor ar Twitter: @CBroMorgannwg.
Mae Debbie Marles, Swyddog Canlyniadau a Chofrestru Etholiadol y Cyngor, yn gobeithio y bydd poblogrwydd y digwyddiad yn y Swyddfeydd Dinesig a’r ymgyrch “Rwy’n pleidleisio” ar y cyfryngau cymdeithasol yn annog mwy o drigolion benywaidd i gofrestru i bleidleisio:
“Mae gennym nifer o fenywod ysbrydoledig yn gweithio ym mhob rhan o lywodraeth leol yn y Fro, ac mae llawer ohonynt yn Benaethiaid gwasanaethau ac yn Gynghorwyr.
“Drwy ddod ynghyd a thynnu sylw at y camau mawr a wnaethpwyd dros y can mlynedd diwethaf rydym yn gobeithio annog mwy o fenywod ledled y sir i ddod i gofrestru i bleidleisio a chael dweud eu dweud.”
Os hoffech fwy o wybodaeth am sut i gofrestru i bleidleisio, ewch i wefan Cyngor Bro Morgannwg neu i www.gov.uk/register-to-vote.