Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 26 Mis Chwefror 2018
Bro Morgannwg
Rydym yn cefnogi ymgyrch ‘Gwanwyn Glân Cymru’ Cadwch Gymru'n Daclus fis Mawrth yma. Bydd ein timau gwastraff ac ailgylchu wrthi’n casglu’r gwastraff a gasglwyd gan ein gwirfoddolwyr gwych.
Yn rhan o ymgyrch Brydeinig, mae Cadwch Gymru'n Daclus am ysbrydoli’r Cymry i fynd allan, bod yn actif ac ymfalchïo yn eu bröydd.
Bydd grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau oll yn cymryd rhan mewn pedwar diwrnod o weithredu o 1-4 Mawrth 2018.
Mae nifer o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal yn y Fro i drigolion gyfrannu atynt:
01 Mawrth, 10:00 - Traeth Porthceri gyda Cadwch Gymru'n Daclus
01 Mawrth, 3.00pm -
Pigo sbwriel yn y gymuned â thrigolion Tresimwn â Cadwch Gymru'n Daclus
02 Mawrth, 10.00am - Treetops, y Barri gyda Cadwch Gymru'n Daclus
02 Mawrth, 2.00pm -Pigo sbwriel yn y gymuned â thrigolion Tresigin â Cadwch Gymru'n Daclus
03 Mawrth, 10:00am - Pigo sbwriel yng Ngwenfô gyda Grŵp Bywyd Gwyllt Gwenfô
03 Mawrth,
10:00am - Glanhau Traeth Llanilltud Fawr â Glanhau Arfordir y Fro
04 Mawrth,
10:00am - Pigo sbwriel yn y Bont-faen â Caru’r Bont-faen, Casáu Sbwriel
10:00am - Pigo sbwriel Marina Penarth â Phigwyr Sbwriel Marina Penarth
1
0:00am - Tregatwg, Y Barri â Grŵp Cadwraeth Tregatwg
Gallwch gael y newyddion diweddaraf am Gwanwyn Glân Cymru drwy ddilyn #GwangwynGlânCymru ar y cyfryngau cymdeithasol.