Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 12 Mis Chwefror 2018
Bro Morgannwg
Barri
Roedd arddangosfa Michael Iwanowski, dan y teitl ‘Clear of People’ yn rhannu siwrne ei dad-cu a’i hen ewythr wrth iddynt ddianc o Rwsia i Wlad Pwyl yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Arddangosodd Thairien King, ffotograffydd a darlunydd, luniau enfawr a oedd yn ymdrin â’r thema cydraddoldeb ac yn rhannu’r neges bod pawb yr un fath.
Cafodd y digwyddiad ei agor ddydd Sadwrn 27 Ionawr gan y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant, gyda chefnogaeth Cyfeillion yr Oriel Gelf Ganolog.
Yn ei araith y diwrnod hwnnw, dywedodd y Cynghorydd Bob Penrose, Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Gall geiriau gael effaith anhygoel ar ein bywydau. Gallant frifo, dinistrio, gwella, newid, dylanwadu a llawer mwy. Mae’r modd rydym yn mynegi ein hunain i eraill yn bwysig, er mwyn i ni gyfleu parch, caredigrwydd a gwyleidd-dra. Mae’n bwysig nodi Diwrnod Cofio’r Holocost. Rhaid i ni ddysgu o gamgymeriadau'r gorffennol a rhaid i ni beidio ag anghofio”.
Mi fydd yr arddangosfa ar agor tan ddydd Sadwrn 24 Chwefror.
Gallwch weld yr arddangosfa trwy brif fynedfa’r llyfrgell.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan neu cysylltwch â Rheolwr Celf Ganolog y Barri ar 01446 700111.