Gwasanaethau Gwirfoddol Morgannwg i gynnig benthyg offer am ddim i grwpiau cymunedol
Gall grwpiau cymunedol ledled y sir, nawr fenthyg amrywiaeth o offer am ddim o gwasanaethau Morgannwg.
Mae yna System Sain, taflunydd digidol, camera digidol, byrddau arddangos, îsl siart troi, iPads, cyfrifiaduron llechen Galaxy, Kindle Fire a gliniaduron ar gael.
Mae Gwasanaethau Gwirfoddoli Morgannwg yn elusen leol, wedi’i leoli yn Ganolfan Cymunedol Menter y Barri, sydd yn cefnogi grwpiau cymunedol yn y Fro, gydag amryw o wasanaethau rhad ac am ddim.
Mae bron 500 o gyfleoedd gwirfoddoli ar gael drwy’r gwasanaeth, yn cynnwys gwirfoddoli gyda phlant, pobl ifanc, mewn ysbytai a hosbisau, ac o fewn y byd chwaraeon a llawer mwy.
Mae telerau ac amodau yn berthnasol i’r cynnig hwn, gyda chyfnod benthyg byrdymor.
Os hoffech fenthyca unrhyw rai o'r eitemau uchod neu ddysgu mwy am y GVS a'i wasanaethau, ffoniwch GVS ar 01446 741706 neu e-bostiwch enquiries@gvs.wales
Neu, os ydych chi a diddordeb gwirffodoli yn y Fro, cysylltwch a GVS neu ebostiwch volunteering@gvs.wales
Ewch i’r wefan i gael rhagor o wybodaeth.
