Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mawrth, 06 Mis Chwefror 2018
Bro Morgannwg
Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau bwyd arddangos sgôr sy'n seiliedig ar eu safonau hylendid. Mae'r sgôr yn cael ei dyfarnu yn dilyn arolygiad gan Gyngor Bro Morgannwg.
Mae busnesau yn yr ardal yn cael eu sgorio o '0', sy'n golygu bod 'angen gwella ar frys' i'r sgôr uchaf o 5, sy'n adlewyrchu safonau ‘da iawn’.
Mae dros 900 o bwytai ar draws Y Fro gyda’r sgor hylendid bwyd o 3 neu’n uwch.
Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoleiddio a Chyfreithiol: “Mae Diwrnod Sant Ffolant yn gyfnod prysur i fwytai, caffis, tafarndai a busnesau bwyd lleol eraill. "Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ei gwneud yn haws i bawb ddewis pryd rhamantus mewn lle sy'n cymryd hylendid bwyd o ddifrif. Mae Sgôr Hylendid Bwyd uchel yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi."
Meddai Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Wasanaethau Rheoleiddio a Chyfreithiol: “Mae Diwrnod Sant Ffolant yn gyfnod prysur i fwytai, caffis, tafarndai a busnesau bwyd lleol eraill.
"Mae'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn ei gwneud yn haws i bawb ddewis pryd rhamantus mewn lle sy'n cymryd hylendid bwyd o ddifrif. Mae Sgôr Hylendid Bwyd uchel yn rhywbeth i ymfalchïo ynddi."
Cofiwch gadw llygad am y sticer du a gwyrdd yn y ffenest neu ar y drws. Mae logo Llywodraeth Cymru arno ac mae'n nodi'r Sgôr Hylendid Bwyd.
Mae'n rhaid i fusnesau tecawê hefyd ddarparu gwybodaeth am sut i ddod o hyd i'w Sgôr Hylendid Bwyd ar eu taflenni/bwydlenni.
Os nad ydych chi'n gallu gweld y sticer, ewch ati i holi aelod o staff neu gallwch chwilio ar-lein drwy: www.food.gov.uk/sgoriau. Os na allwch chi gael gwybodaeth am Sgôr Hylendid Bwyd busnes,dylech chi gysylltu â'ch awdurdod lleol.
Meddai Richard Bowen, Cyfarwyddwr Dros Dro’r Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru: “Nid yw awyrgylch rhamantus neu wefan bwyty yn rhoi gwybod i chi sut siâp sydd ar ei safonau hylendid bwyd. Ond mae'r Sgôr Hylendid Bwyd yn rhoi syniad i chi o beth sy'n digwydd tu ôl i ddrysau caeedig y gegin, felly dylech chi ystyried hynny wrth benderfynu ble i fwyta ar Ddiwrnod Sant Ffolant.”