Cynlluniau cyffrous ar gyfer tafarn adnabyddus yn Y Barri
Mae cynlluniau newydd cyffrous wedi eu cyhoeddi i gadw y Castle Hotel fel tafarn gymunedol, fel rhan o fargen rhwng S.A. Brain a Chymdeithas Tai Newydd.
Er ei bod yn ddyddiau cynnar, bydd y dafarn a reolir gan y gymuned, yn cynnig croeso cynnes i bobl Castleland a'r Barri, gan gynnig bwyd a diod da.
Dywedodd y Cyng John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae tafarn dda wrth galon pob cymuned ffyniannus a bydd y fenter hon yn cynnig y cyfle i drigolion Castleland chwarae rhan flaenllaw yn y modd y caiff eu tafarn leol ei redeg. Gall fod yn ganolfan ar gyfer ystod o weithgareddau yn yr ardal, tra bydd creu cartrefi fforddiadwy yn cynnig cyfle i rai sy’n ei chael yn anodd prynu eiddo i gymryd y cam cyntaf."
Dywedodd Derek Brotton o grŵp Hyb Castleview, “Mae sin sgitls hyfyw yn y Barri a bydd y project yma yn help i hyrwyddo’r traddodiad hwnnw.”
Bwriad Cymdeithas Tai Newydd yw adeiladu 14 o dai fforddiadwy o ansawdd uchel i bobl leol uwch ben y dafarn gymunedol fel rhan o fargen hefyd i brynu Clwb Llafur Sea View gan gwmni S.A. Brain.

Ychwanegodd Paul Roberts, Prif Weithredwr Newydd, “Mae’r fenter newydd yma yn ein cyffroi ni. Nid yn unig y bydd yn cynnig cartrefi fforddiadwy i bobl leol, ond bydd y dafarn hefyd yn gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r gymuned a’u bywydau cymdeithasol.”
Mae Tîm Datblygu Economaidd Cyngor y Fro wedi denu cefnogaeth gan Binki Rees, a weddnewidiodd dafarn y Lansdowne yn Nhreganna yn Dafarn Gwrw’r Flwyddyn i CAMRA. Dywedodd Binki: “Rydym am glywed gan bobl Castleland a thu hwnt yn y Barri am yr hyn yr hoffent ei weld yn y dafarn. Pa fath o fwyd ydych chi’n ei hoffi? Pa un yw eich hoff gwrw? A fyddem yn gallu cynnig gofod i’ch grŵp cymunedol? Ar sail fy mhrofiad i, mae cael syniadau gan bobl leol o ran datblygiad y dafarn yn mynd i fod yn allweddol os yw i lwyddo fel tafarn wrth galon cymuned hyfyw.”
Mae’r syniad o dafarn gymunedol wedi derbyn cefnogaeth gan Jane Hutt AC, a ddwedodd am y cynllun arfaethedig, “Rwyf wedi bod yn cefnogi grŵp Hyb Castleview ar y project hwn i ddiogelu dyfodol y Castle Hotel a gweithgareddau Clwb Llafur Seaveiw. Rwy’n hynod falch ei fod yn symud yn ei flaen mor gadarnhaol gan ddod â’r gymuned ynghyd.”
Bydd y rhai sy’n ymwneud â’r project, ynghyd â phartneriaid fel y Gwasanaeth Ieuenctid a Heddlu De Cymru yn cefnogi diwrnod agored cymunedol ar 17 Chwefror 2018 rhwng 12.00pm a 3.00pm. Bydd gweithgareddau i’r teulu am ddim a lluniaeth ar gael ar y diwrnod, a chyfle i fynd ar daith yn yr adeilad, chwarae rhywfaint o sgitls a chynnig eich syniadau ar sut olwg ddylai fod ar y dafarn berffaith.”
