Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 19 Mis Chwefror 2018
Barri
Mae Cartrefi'r Fro mewn partneriaeth â Forces Fitness yn chwilio am bobl ddi-waith i gymryd rhan mewn Cwrs Preswyl Cyflogadwyedd AM DDIM yn Fferm Gyfylchi ym Mhort Talbot.
Bydd y cwrs yn parhau am 3 diwrnod a dwy nos gan gynnwys pob pryd o fwyd.
Mae’r cyrsiau preswyl ar gyfer ceisiwyr gwaith sy’n paratoi i fynd i mewn i’r byd gwaith. Mae’r cwrs preswyl yn helpu i achosi newidiadau bywyd positif gyda gweithdai strwythuredig wedi'u teilwra er mwyn cymell a thanio brwdfrydedd y cyfranogwyr.
Mae Forces Fitness yn fusnes penigamp sydd wedi ymddangos ar sawl rhaglen deledu yn gweithio gyda phobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig. Mae’r adborth a gafwyd gan y cyfranogwyr ynghyd â staff y gymdeithas tai wedi bod yn ardderchog.
Mae eu lleoliad yn ffantastig ac yn ddelfrydol ar gyfer cyrsiau preswyl yng Nghwm Afan, Castell-nedd, gyda golygfeydd anhygoel. Bydd hyn yn cael gwared ag unrhyw beth gartref allai dynnu sylw. Bydd pob cyfranogwr yn derbyn tystysgrif DPP o’r gweithdai maen nhw'n eu cwblhau.
Dydd Mawrth 20 – Dydd Iau 22 Mawrth 2018
Bryn Bettws, Fferm Gyfylchi, Pontrhydyfen, Port Talbot, SA12 9SP
Gweld Lleoliad ar y Map
Cyngor Bwyta’n Iach
Ymarferion ysgrifennu CV
Technegau Cyfweliad
Cyflwyniad i Gyflogaeth
Cyflwyniad Dragons’ Den
Ymarferion Cydweithio
Heriau Ffitrwydd
Airsoft
Gweithdai Achrededig
Cyfleoedd Bancio Amser
Os ydych chi’n ymddiddori mewn cymryd rhan cysylltwch â Shani Payter am ragor o wybodaeth: