Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 19 Mis Chwefror 2018
Bro Morgannwg
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, arweinydd y Cyngor: “Gan fod y galw am ein gwasanaethau a’r gost o’u darparu’n parhau i godi, mae’r her o gynorthwyo’r preswylwyr sy’n dibynnu ar y Cyngor yn galetach nag erioed. “Mae Cyngor Bro Morgannwg bob tro wedi derbyn un o’r setliadau ariannu isaf yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ac rydym wedi gweld toriad sylweddol eto yn 2018. Golyga hyn fod nifer o’n gwasanaethau lleol pwysig, yn cynnwys ysgolion ac addysg yn cael eu tanariannu’n sylweddol o’u cymharu â gweddill Cymru. Er ein bod yn ceisio gwneud arbedion gwerth dros £6.2 miliwn dros y flwyddyn ariannol nesaf, mae'r toriad hwn yn golygu nad oes dewis gennym ond codi refeniw yn lleol. “Rydym yn cynnig cynnydd gan 3.9%, sy’n cyfateb i lai na phunt yr wythnos i breswylwyr sy’n byw mewn eiddo Band D. “Nid yw hwn yn benderfyniad sydd wedi ei wneud yn hawdd ac rwy’n siŵr y bydd dadlau tanbaid yng nghyfarfod y cyngor llawn yr wythnos nesaf. O ystyried yr anghydraddoldeb yn null Llywodraeth Cymru o ariannu gwahanol awdurdodau lleol, a Chyngor Bro Morgannwg yn dioddef gan flwyddyn wedi blwyddyn o danariannu, dyma yw, rwy’n credu, y ffordd orau o gydbwyso’r angen i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol lleol, megis addysg a gofal cymdeithasol, a'n dyhead i gadw'r cynnydd cyn ised â phosibl.”
Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, arweinydd y Cyngor:
“Gan fod y galw am ein gwasanaethau a’r gost o’u darparu’n parhau i godi, mae’r her o gynorthwyo’r preswylwyr sy’n dibynnu ar y Cyngor yn galetach nag erioed.
“Mae Cyngor Bro Morgannwg bob tro wedi derbyn un o’r setliadau ariannu isaf yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru ac rydym wedi gweld toriad sylweddol eto yn 2018. Golyga hyn fod nifer o’n gwasanaethau lleol pwysig, yn cynnwys ysgolion ac addysg yn cael eu tanariannu’n sylweddol o’u cymharu â gweddill Cymru. Er ein bod yn ceisio gwneud arbedion gwerth dros £6.2 miliwn dros y flwyddyn ariannol nesaf, mae'r toriad hwn yn golygu nad oes dewis gennym ond codi refeniw yn lleol.
“Rydym yn cynnig cynnydd gan 3.9%, sy’n cyfateb i lai na phunt yr wythnos i breswylwyr sy’n byw mewn eiddo Band D.
“Nid yw hwn yn benderfyniad sydd wedi ei wneud yn hawdd ac rwy’n siŵr y bydd dadlau tanbaid yng nghyfarfod y cyngor llawn yr wythnos nesaf. O ystyried yr anghydraddoldeb yn null Llywodraeth Cymru o ariannu gwahanol awdurdodau lleol, a Chyngor Bro Morgannwg yn dioddef gan flwyddyn wedi blwyddyn o danariannu, dyma yw, rwy’n credu, y ffordd orau o gydbwyso’r angen i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol lleol, megis addysg a gofal cymdeithasol, a'n dyhead i gadw'r cynnydd cyn ised â phosibl.”
Dyma gyfraddau’r dreth gyngor ar gyfer 2018/19:
Nawr aiff hyn i bleidlais fel rhan o gyllideb y Cyngor ar gyfer 2018/19 yng nghyfarfod y cyngor llawn ar 28 Chwefror.