Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 19 Mis Chwefror 2018
Barri
Bro Morgannwg
Cyflwynwyd y gweithdy bore, a drefnwyd mewn partneriaeth â’r Cyngor, i’r bobl ifanc gan y gweithiwr addysg a chyn-chwaraewr pêl-droed rhyngwladol Cymru Steve Jenkins, a aeth ati i’w haddysgu am hiliaeth drwy weithgareddau rhyngweithiol a thrafodaethau.
Gofynnwyd i’r disgyblion baratoi ar gyfer cynhadledd i’r wasg, a oedd yn cynnwys creu enw papur newydd ac ymchwilio i ragfarn mewn chwaraeon a chymdeithas ehangach.
Gwnaethant ddarllen papurau newydd a blogiau ar-lein er mwyn pwyso a mesur sut yr oeddent wedi’u hysgrifennu, ac yna, bu’n rhaid iddynt lunio eu herthygl eu hunain.
Roedd rheolwr Tref y Barri, Gavin Chesterfield, y rheolwr cynorthwyol Mike Cosslett a’r chwaraewr Jordan Cotterill hefyd yn bresennol yn y digwyddiad, gan gymryd rhan yn y gynhadledd ac ymunodd Maeres Bro Morgannwg Janice Charles hefyd.
Derbyniodd bob disgybl docyn i weld gêm Clwb Pêl-droed Tref y Barri yn Uwch Gynghrair Cymru.
Dywedodd y Cyng. Thomas: Roeddwn wrth fy modd bod yn bresennol mewn digwyddiad pwysig, lle y tynnwyd sylw at hiliaeth a gwahaniaeth i blant mewn modd meddylgar a diddorol. “Fel Cyngor, rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chydnabod pwysigrwydd hyrwyddo’r neges honno i’r gymuned ehangach. Mae digwyddiadau fel y rhain yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hynny.”
Dywedodd y Cyng. Thomas: Roeddwn wrth fy modd bod yn bresennol mewn digwyddiad pwysig, lle y tynnwyd sylw at hiliaeth a gwahaniaeth i blant mewn modd meddylgar a diddorol.
“Fel Cyngor, rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth a chydnabod pwysigrwydd hyrwyddo’r neges honno i’r gymuned ehangach. Mae digwyddiadau fel y rhain yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni hynny.”