Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 14 Mis Chwefror 2018
Bro Morgannwg
Mae’r Cyngor yn ymwybodol fod JMEL Enviro Fuels Ltd, sydd wedi’i lleoli ar Ffordd David Davies, Y Bari, wedi cychwyn derbyn naddion pren. Mae JMEL wedi derbyn Trwydded Amgylcheddol gan y rheoleiddiwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac mae gan y gwersyll ganiatâd cynllunio ar gyfer y weithgaredd hon.
Os hoffech chi adrodd digwyddiad i CNC ynglyn â’r weithgaredd hon, mae’n bosib cysylltu a nhw ar eu llinell digwyddiad 24 awr ar 0300 065 3000.
Cafodd y Cyngor wybod o ddydd Mercher 14 Chwefror 2018, bydd cam cyn comisiynu’n dechrau, fydd yn cynnwys stêm-lanhau'r boeler a’r pibelli cysylltiedig dros gyfnod o rai wythnosau.
Gallai stêm a sŵn gael eu hachosi gan y safle drwy’r cyfnod hwn, ond ni fydd cynrychiolydd ar y safle pan gaiff ei gomisiynu’n llawn.
Er mwyn ceisio sicrhau na fyddwn yn effeithio’n ormodol ar drigolion cyfagos y cam cyn comisiynu hwn, ni chaiff y gwaith ond ei gynnal rhwng 09:00 a 6:00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Penderfyniad a trwydded Cyfoeth Naturiol Cymru