Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Gwener, 09 Mis Chwefror 2018
Bro Morgannwg
Barri
Barnodd yr arolygwyr bod yr ysgol yn rhagorol o safbwynt Llesiant ac agweddau at ddysgu, Gofal, cymorth ac arweiniad, ac Arweinyddiaeth a rheolaeth. Barnwyd bod y profiadau addysgu a dysgu a’r safonau yn Dda.
Mae 471 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol, rhwng 3 – 11 oed, gan gynnwys 65 o ddisgyblion meithrin rhan-amser, ac fe ganfu’r adroddiad fod agwedd bron y cwbl o’r disgyblion at ddysgu yn hynod o gref.
Canfu arolygwyr fod disgyblion Blwyddyn 6 yn nodi dulliau amgen i wella effeithlonrwydd eu cyfrifiadau a’u bod yn cefnogi dysgu ei gilydd yn effeithiol iawn. Roedd bron pob un o’r disgyblion yn ymddwyn yn dda, gan ddweud eu bod yn teimlo'n ddiogel a'u bod yn mwynhau yr ysgol.
Adroddir fod yr addysgu drwy’r ysgol yn gyson dda, ac o ganlyniad, mae bron y cyfan o’r disgyblion yn gwneud cynnydd da wrth symud drwy’r ysgol a bod lleiafrif yn gwneud cynnydd eithriadol.
Dywed hefyd fod arweinwyr, staff a llywodraethwyr yn cydweithio’n rhyfeddol o dda i roi gofal, cymorth ac arweiniad neilltuol i ddisgyblion a’u teuluoedd, sy’n ei dro yn arwain at ddisgyblion yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau a’r dylanwad cynhwysfawr sydd ganddynt ar osod cyfeiriad yr ysgol i’r dyfodol.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’n hyfryd cael darllen yr adolygiad rhagorol yma ar Ysgol Gynradd Tregatwg. Mae’n galonogol darllen y cofnod cadarnhaol iawn o reoli newid a bod bron y cwbl o’r disgyblion yn y cyfnod sylfaen yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu sgiliau siarad a gwrando. “Mae’n amlwg fod y Pennaeth a’r aelodau staff wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd dysgu a fydd yn helpu’r disgyblion i ffynnu. Da iawn i bawb yn Ysgol Gynradd Tregatwg.”
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, yr Aelod Cabinet dros Ddysgu a Diwylliant: “Mae’n hyfryd cael darllen yr adolygiad rhagorol yma ar Ysgol Gynradd Tregatwg. Mae’n galonogol darllen y cofnod cadarnhaol iawn o reoli newid a bod bron y cwbl o’r disgyblion yn y cyfnod sylfaen yn gwneud cynnydd da o ran datblygu eu sgiliau siarad a gwrando.
“Mae’n amlwg fod y Pennaeth a’r aelodau staff wedi gweithio’n galed i greu amgylchedd dysgu a fydd yn helpu’r disgyblion i ffynnu. Da iawn i bawb yn Ysgol Gynradd Tregatwg.”