Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 13 Mis Rhagfyr 2018
Bro Morgannwg
Agorwyd yr arddangosfa ddydd Sadwrn 8 Rhagfyr gan Faer y Fro, y Cyng. Leighton Rowlands.
Dywedodd y Cynghorydd Rowlands: “Gyda phleser mawr rwy’n croesawu’r artist, Philip Muirden. "Rydym wrth ein bodd yn cael dangos ei waith yn yr oriel”.
Dywedodd y Cynghorydd Rowlands: “Gyda phleser mawr rwy’n croesawu’r
artist, Philip Muirden.
"Rydym wrth ein bodd yn cael dangos ei waith yn yr oriel”.
Mae gwaith Muirden yn gyfuniad o baentiadau
yn yr arddull swréal a delweddau o fywyd go iawn sy’n ymgysylltu â morlun naturiol, y glannau a’r dociau o amgylch ardal ei eni yn Aberdaugleddau.
Mae Philip wedi gweithio fel athro ac uwch-ddarlithydd mewn ysgolion a phrifysgolion yng Nghymru a gogledd Lloegr, ac roedd yn Bennaeth y Cwrs Sylfaen yng Ngholeg Celf Casnewydd.
Mae wedi arddangos yn helaeth ledled Cymru a’r DU gyda sioeau unigol a grŵp.
Mae gwaith Muirden i’w gael mewn nifer o gasgliadau celf sydd gan Gyngor Celfyddydau Cymru, Amgueddfa Casnewydd a Chymdeithas Celf Gyfoes Cymru ymhlith eraill.
Mae’r arddangosfa yn y llyfrgell tan ddydd Sadwrn 19 Ionawr.
Mae’r galeri ar gau o Ragfyr 24 - 26, ac ar 1 Ionawr.
Ewch i’r wefan am fwy o wybodaeth.