Sinemau ym Mro Morgannwg yn Ymuno Gyda’i Gilydd ar Gyfer Digwyddiadau Ffilm Newydd
Mae Vale Venues yn bartneriaeth newydd ddyfeisgar rhwng Canolfan Ffilm Cymru ac unarddeg o ganolfannau celfyddyd cymysg a sinemau cymunedol ar draws Bro Morgannwg.

Fe fydd y lleoliadau yn gweithio gyda’i gilydd i hyrwyddo dangosiadau ffilm ym mhob un o’r unarddeg safle, gan roi’r cyfle gorau i gynulleidfaoedd gwledig i ddarganfod beth sy’n digwydd yn eu tref neu bentref.
Fe fydd y prosiect, sy’n cael ei gydlynu gan Ganolfan Gelfyddydau’r Memo yn y Barri, y sinema annibynnol fwyaf ym Mro Morgannwg, yn cael ei lansio gyda chyfres o ddangosiadau ffilm arbennig ar draws y rhwydwaith o sinemau yn gynnar yn 2019.
Fe fydd Vale Venues a’r Memo yn cyflwyno gŵyl ffilmiau newydd sydd yn dathlu ffilm o dan y thema ‘Darganfod’ a fydd yn cynnwys dangosiadau a digwyddiadau ffilm.
Gan barhau or haf i’r Nadolig yn 2019, yr ŵyl ffilmiau newydd yma fydd y gyntaf o’i bath yn y wlad.
“Mae sinema yn fyw yn y Fro, gydag amrywiaeth o gyrff profiadol yn cynnig gweithgareddau ffilm llawn dychymyg i gynulleidfaoedd lleol. Mae yna botensial enfawr i grynhoi hyn oddi mewn i ŵyl ffilmiau sydd yn dod â chynulleidfaoedd ynysig at ei gilydd i ddathlu eu cymunedau a darganfod beth sy’n digwydd yn eu hardal drwy gydol y flwyddyn.” - Hana Lewis, Film Hub Wales
Fe fydd Vale Venue CineFest19 yn arddangos sinema mewn mannau anturus, yn creu digwyddiadau sydd yn fwy cyfeillgar i deuluoedd, yn ymgysylltu gydag ysgolion ac yn darparu rhagor o gyfleoedd ar gyfer digwyddiadau pontio’r cenedlaethau, cyfeillgar i dementia a digwyddiadua ffilm mewn awyrgylch ymlacedig.
“Rydym yn falch o gael cydweithio gyda’n sinemau partner i ddatblygu ein partneriaethau ac rydym yn edrych ymlaen at gael cyflwyno gŵyl ffilmiau sydd yn dangos amrediad eang o ffilmiau i gynulleidfaoedd ar draws y Fro. Rydym yn gweld y bartneriaeth fel cyfle gwych i annog cynulleidfaoedd sinema i ymweld â’n sinemau i weld beth sydd ar gael. Rydym eisiau cyflwyno’r ffilmiau gorau yn y Fro, o glasuron y sinema, ffilmiau annibynnol Prydeinig, ffilmiau byr, animeiddio, ffilmiau dogfen, ffilmiau rhyngwladol a hyd yn oed cynnwys Cymreig gwrieddiol." - Kate Long, Memo Arts Centre
Fe fydd y lleoliadau sydd yn rhan o’r prosiect yn cynnwys:
-
Barn At West Farm
-
Sinema Gymunedol Colwinston
-
Cowbridge Big Screen
-
Sinema Gymunedol Dinas Powys
-
Sinema Gymunedol Llancarfan
-
Canolfan Gelfyddydau’r Memo
-
Neuadd Bentref Peterston
-
Sinema Snowcat ym Mhafiliwn Pier Penarth
-
Canolfan Gelfyddydau Sain Dunwyd
-
Sinema Gymunedol Sili
-
Chymdeithas Cymunedol a Chwaraeon Ystradowen.
“Fe wnaethom nodi gwerth cymdeithasol sinemau cymunedol yn y Fro a helpu i’w cefnogi yn eu dyddiau cynnar. Bu’n wych gweld sut mae’r sinemau yma wedi datblygu i wasanaethu eu cymunedau eu hunain a sut mae sinemau newydd yn parhau i gael eu ffurfio. Fe fydd y cynllun yma yn golygu bod modd iddyn nhw nawr ddod at ei gilydd i rannu sgliau, oddi wrth ei gilydd.”- Nicola Summer Smith, Cymunedau Gwledig Creadigol
Am ragor o wybodaeth am ddangosiadau a lleoliadau ewch i’w tudalen Facebook neu edrychwch ar dudalen Barry Memo .