Grwpiau cymunedol y Fro yn elwa o Gronfa Grant Sefydliad y Maer
Mae cyfanswm o saith sefydliad y Fro wedi derbyn grantiau gan Gronfa Grant Sefydliad Maer Bro Morgannwg 2018/19.
Derbyniodd Bad Achub RNLI y Barri, Sgowtiaid Ardal Tir a Môr, Valeplus, Valeways a Chymdeithas Preswylwyr Tŷ Cadog £250 o gronfa grant y Maer.
Derbyniwyd £157 gan y Sefydliad Gwylio’r Glannau Cenedlaethol.
Mae Cynllun Gwarchod Cymdogaeth Cymuned Highlight Park yn cynnwys 16 cydlynydd stryd a derbyniwyd £243.00 gan y cynllun tuag at broject newydd.
Mae rheolwyr y cynllun am sefydlu “Paned Cymuned Highlight” a fyddai’n cwrdd yn y ganolfan gymuned bob pythefnos.
Meddai’r Dirprwy Gydlynydd Grŵp, Barbara Bowering a Chydlynydd Grŵp Cynllun Gwarchod Cymdogaeth Highlight Park, Ada Finn:
“Mae Highlight Park yn 2 filltir o dref y Barri a gall pobl deimlo’n ynysig yno.
“Ein nod yw estyn allan i ddynion a menywod yng nghymdogaethau Illtud a Dyfan, yn ogystal â Highlight Park.
“Ein nod yw helpu i gryfhau ysbryd cymunedol trwy gael gwared ar unigrwydd a lledaenu’r neges bod cymorth ar gael i bobl.”
Nod Cronfa Grant Sefydliad y Maer yw cynnig grantiau i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a sefydliadau dielw ar gyfer costau mentrau ym Mro Morgannwg sy’n cefnogi gweledigaeth y Cyngor ar gyfer cymunedau cryf â dyfodol disglair.

Dywedodd Maer y Fro y Cynghorydd Leighton Rowlands: “Mae’n bleser gennyf gyflwyno grantiau o Gronfa Grant Sefydliad y Maer 2018/19 i’r grwpiau hyn.
“Mae’n glir bod aelodau pob sefydliad yn gweithio’n galed ac wedi ymrwymo i’w hachos.
“Rwy’n credu bod cefnogi grwpiau cymunedol, y sector gwirfoddol a sefydliadau nid er elw
ar draws y Fro yn allweddol, ac rwy’n hapus i gefnogi cymaint o grwpiau â phosibl, i sicrhau
eu bod yn parhau i ffynnu.”
Nod y gronfa yw rhoi help llaw i Grwpiau Cymunedol, y Sector Gwirfoddol a sefydliadau dielw a all wneud cais am gyllid o rhwng £100 a £250 i hybu gwaith y sefydliadau hyn ym Mro Morgannwg, oherwydd y rhain yw sylfeini ein cymunedau.
Yr arian penodol sydd ar gael i’w ddyrannu bob blwyddyn fel rhan o’r cynllun grant hwn yw £5,000.
Am fwy o wybodaeth neu os hoffech wneud cais am y cyllid hwn lawrlwythwch y ffurflen gais a’r nodiadau canllaw o’n gwefan, neu danfonwch ebost i TheMayor@valeofglamorgan.gov.uk