Mae clybiau'r Fro yn ennill dros £12,000 o gyllid y Gist Gymunedol
Yn ddiweddar llwyddodd cyfanswm o 10 o sefydliadau i sicrhau £12,761 o gyllid y Gist Gymunedol i ddatblygu ac ymestyn cyfleoedd chwaraeon yn y Fro.
Derbyniodd y clybiau canlynol arian i anfon hyfforddwyr a gwirfoddolwyr ar gyrsiau hyfforddi:
Achubwyr bywyd y Rhws, Clwb Pêl-droed Menywod Penarth, Amatur Dinas Powys, Chlwb Pêl-droed Amatur Tref Penarth, Clwb Pêl-droed Heol Holton, YMCA Y Barri, Clwb Criced y Fro, Clwb Pêl-droed Menywod y Barri, a Chanolfan Clwstwr Merched Ynyswyr.

Roedd Clwb Pêl-fasged merched y Fro, hefyd wedi elwa o arian ar gyfer addysg hyfforddwr, ac arian i greu sesiynau ar gyfer merched o dan 12 mlwydd oed.
Mae Clwb Golff Castell Gwenfo wedi derbyn arian i godi cyfleoedd i fenywod a phobl ifanc, ac mae Clwb bocsio Ynys y Barri wedi derbyn cyllid ar gyfer mwy o gyfleoedd i bobl ifanc.
Mae cynllun y Gist Gymunedol wedi'i ariannu gan Chwaraeon Cymru a'i reoli'n lleol gan Dîm Byw'n Iach Cyngor y Fro. Caiff ceisiadau eu hystyried gan banel o wirfoddolwyr cymunedol a chynrychiolwyr o Chwaraeon Cymru a Chyngor y Fro.
Gellir defnyddio’r cyllid ar gyfer meysydd megis addysg hyfforddwyr a gwirfoddolwyr, prynu offer, marchnata a llogi cyfleusterau cychwynnol ar gyfer gweithgareddau newydd.
Bydd y rhan fwyaf o sefydliadau yn gymwys i wneud cais cyhyd â’u bod yn gallu dangos eu bod yn datblygu gweithgareddau newydd rheolaidd ac yn gallu bodloni'r meini prawf.
Os ydych chi yn rhan o sefydliad a diddordeb yn datblygu cyfleoedd, gallwch ofyn am help o’r Gist Gymunedol
Mae cyfarfod nesaf y Gist Gymunedol yn cymryd lle ar ddydd Iau 31 Ionawr, a dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau 17 Ionawr.
I drafod prosiect, cysylltwch â Karen Davies, Prif Swyddog Byw yn Iach, ar 01446 704793 neu ar ebost KJDavies@valeofglamorgan.gov.uk.