Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 10 Mis Rhagfyr 2018
Bro Morgannwg
Cafodd Grŵp Achub Sili a’r Larnog ei sefydlu gan drigolion i wella ansawdd bywyd yn Sili a Larnog.
Cafodd y diffibriliwr ei gyflwyno gan Steve Thomas, Cadeirydd Grŵp Achub Sili a Larnog, ar ddydd Iau 29 Tachwedd.
Bydd y diffibriliwr ar gael i'r gymuned leol ac ymwelwyr y parc 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn.
Diffibriliwr Llynnoedd Cosmeston yw'r un diweddaraf sydd wedi'i osod mewn prosiect achub bywydau gan y Grŵp Achub Sili a Larnog a neuadd yr hen ysgol yn Sili. Mae'r grŵp hefyd wedi gosod diffibrilwyr yn neuadd yr hen ysgol, y swyddfa bost a Llyfrgell Gymunedol Sili a Larnog.
Ychwanegodd Michael Garland, Cynghorydd Cymunedol dros Larnog: "Mae'n wych ein bod wedi gosod diffibriliwr yng Nghymuned Larnog o'r diwedd. Gall unrhyw un ddioddef trawiad ar y galon. "Yn wir, mae 12 o bobl ifanc yn marw bob wythnos oherwydd trawiad sydyn ar y galon. Gall diffibriliwr sydd wedi'i leoli gerllaw helpu unrhyw un sydd wedi cael trawiad ar y galon yn ystod y tair munud gyntaf i gynyddu ei siawns o oroesi o 6% i 74%."
Ychwanegodd Michael Garland, Cynghorydd Cymunedol dros Larnog: "Mae'n wych ein bod wedi gosod diffibriliwr yng Nghymuned Larnog o'r diwedd. Gall unrhyw un ddioddef trawiad ar y galon.
"Yn wir, mae 12 o bobl ifanc yn marw bob wythnos oherwydd trawiad sydyn ar y galon. Gall diffibriliwr sydd wedi'i leoli gerllaw helpu unrhyw un sydd wedi cael trawiad ar y galon yn ystod y tair munud gyntaf i gynyddu ei siawns o oroesi o 6% i 74%."
Mae’r grŵp eisoes wedi trefnu taith gerdded noddedig i godi arian i brynu dau ddifibrilwyr, un a osodwyd yn Neuadd y Jiwbilî, ac un a gaiff ei osod yn Larnog.
Gall rhif ffôn ar y casin gyfeirio defnyddwyr i'r gwasanaeth ambiwlans a fydd yn rhoi'r cod iddynt ddatgloi'r cabinet a defnyddio'r diffibriliwr.