Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 12 Mis Rhagfyr 2018
Bro Morgannwg
Arweiniodd Rheolwr Canolfan Gymunedol Castleland, Helen Jones, dîm o wirfoddolwyr, a gynlluniodd ac a baratôdd y digwyddiad ar ddydd Gwener 7 Rhagfyr.
Diolchodd y tîm i Tesco, Morrisons a Greggs am eu rhoddion caredig at y cinio.
Cafwyd adloniant hyfryd gan ddisgyblion Ysgol Gynradd Parc Jenner, yn canu carolau Nadolig ac annog y gynulleidfa i ymuno.
Roedd y bingo, y cwis a’r raffl hefyd yn hwyl mawr gyda gwobrau gwych yn cael eu rhoi gan fusnesau lleol, yr hoffai’r Ganolfan ddiolch iddynt hwythau hefyd.
Dywedodd Helen Jones: “Mae ein gwirfoddolwyr yn allweddol i lwyddiant y Ganolfan, gyda blwyddyn gynhyrchiol arall wedi bod, gan wneud y ganolfan yn ased gwych i'r gymuned. Mae ystod enfawr o ddosbarthiadau a gweithgareddau ar gael ac mae grwpiau defnyddwyr newydd yn cofrestru o hyd.” “Roedd yn wych gweld y gymuned yn ein cefnogi, roedd yr adborth yn dda iawn ar y bwyd, y gwasanaeth a’r adloniant ac edrychai pawb ymlaen at y flwyddyn nesaf.”
Dywedodd Helen Jones: “Mae ein gwirfoddolwyr yn allweddol i lwyddiant y Ganolfan, gyda blwyddyn gynhyrchiol arall wedi bod, gan wneud y ganolfan yn ased gwych i'r gymuned.
Mae ystod enfawr o ddosbarthiadau a gweithgareddau ar gael ac mae grwpiau defnyddwyr newydd yn cofrestru o hyd.”
“Roedd yn wych gweld y gymuned yn ein cefnogi, roedd yr adborth yn dda iawn ar y bwyd, y gwasanaeth a’r adloniant ac edrychai pawb ymlaen at y flwyddyn nesaf.”
Os oes gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwirfoddoli neu ddefnyddio’r ganolfan ffoniwch 01446 701285.