Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 02 Mis Awst 2018
Bro Morgannwg
Mae’r Wasanaeth Llyfrgell Cartref yn rhad ac am ddim, ac yn darparu llyfrau i ddarllenwyr sydd methu cyrraedd eu llyfrgell leol i ddewis eu llyfrau, a does neb all ddod i’r llyfrgell ar eu rhan.
Fel arfer, caiff darllenwyr un ymweliad y mis, a gallan nhw gael benthyg hyd at 10 eitem, sydd wedi eu stampio am bedair wythnos. Gellir rhagnodi llyfrau ar-lein yn ogystal. O bryd i’w gilydd, mae’n bosibl y bydd rhestr aros.
Mae Veronica Oakes yn defnyddio’r gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn rheolaidd, ac mae Kate, sy'n wirfoddolwr, yn cludo llyfrau i gartref Veronica bob mis. Dywedodd Veronica Oakes: “Rwy’n byw yn y Bont-faen ac wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell cartref am ddwy flynedd a hanner. Mae’n wych, mae’n ffantastig! ‘Dw i’n gaeth yn y tŷ mwy neu lai, ac felly mae'r gwasanaeth yn help mawr i mi."
Mae Veronica Oakes yn defnyddio’r gwasanaeth Llyfrgell Cartref yn rheolaidd, ac mae Kate, sy'n wirfoddolwr, yn cludo llyfrau i gartref Veronica bob mis.
Dywedodd Veronica Oakes: “Rwy’n byw yn y Bont-faen ac wedi bod yn defnyddio’r gwasanaeth llyfrgell cartref am ddwy flynedd a hanner. Mae’n wych, mae’n ffantastig! ‘Dw i’n gaeth yn y tŷ mwy neu lai, ac felly mae'r gwasanaeth yn help mawr i mi."
Os hoffech chi ymgeisio i fod yn gwirfoddolwyr, fydd angen arnoch chi trwydded yrru ddilys a mynediad i gar sydd wedi ei yswirio a chanddo dystysgrif MOT.
Bydd pob gwirfoddolwr yn cael ei gyfweld a bydd gofyn iddynt ddarparu geirda. Caiff pawb eu gwirio gan yr heddlu (CRB) a byddan nhw’n derbyn cerdyn adnabod â llun arno.
Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan.
Os ydych chi’n adnabod rhywun allai fod yn ddilys i dderbyn y gwasanaeth hwn, neu os oes gennych ymholiadau pellach, cysylltwch â Uwch Llyfrgellydd, Melanie Weeks ar 01446 422419 neu anfonwch ebost.