Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Iau, 09 Mis Awst 2018
Bro Morgannwg
Treuliodd myfyrwyr o Rheindelden yn yr Almaen, Mouscron yng Ngwlad Belg a Fécamp yn Ffrainc wythnos yng nghwmni aelodau gwasanaeth ieuenctid y Fro, gan ymweld â’r Fro ac ardaloedd cyfagos rhwng dydd Sul 29 Gorffennaf a dydd Sadwrn 4 Awst.
Roedd yr wythnos yn cynnwys gweithgareddau meithrin tîm ac yn gyfle i fyfyrwyr ddysgu am ddiwylliant ac ieithoedd ei gilydd.
Y prif broject oedd creu darn o waith celf yn cynrychioli'r gefeillio a chafodd ei ddatgelu ar y sgwâr ddydd Gwener.
Ar ddiwedd eu taith, datgelodd y myfyrwyr furlun roeddynt wedi’i greu yn ystod yr wythnos â chymorth MCs, Ysgrifenwyr, DJs a pherfformwyr Hip-hop Tanddaearol lleol.
Croesawodd Leighton Rowlands, Maer a Hyrwyddwr Ieuenctid Bro Morgannwg, y myfyrwyr yn Siambr Cyngor y Fro ddydd Llun 30 Gorffennaf.
Dywedodd Leighton Rowlands: “Rwy’n credu bod rhoi’r cyfle i bobl ifanc gwrdd â phobl ifanc eraill ledled Ewrop yn gyfle ardderchog. Rwy’n gwybod bod datblygu ein perthynas â’n gefeilldrefi: Fécamp, Mouscron a Rheinfelden, yn hynod o bwysig i Fro Morgannwg ac mae’n wych gweld pobl ifanc yn cymryd rhan. “Mae’n gyfle gwych i bobl ifanc o wahanol wledydd ddod ynghyd i ddysgu am ddiwylliant a thraddodiadau ei gilydd, ymarfer siarad gwahanol ieithoedd a gwneud cyfeillgarwch rhyngwladol."
Dywedodd Leighton Rowlands: “Rwy’n credu bod rhoi’r cyfle i bobl ifanc gwrdd â phobl ifanc eraill ledled Ewrop yn gyfle ardderchog. Rwy’n gwybod bod datblygu ein perthynas â’n gefeilldrefi: Fécamp, Mouscron a Rheinfelden, yn hynod o bwysig i Fro Morgannwg ac mae’n wych gweld pobl ifanc yn cymryd rhan.
“Mae’n gyfle gwych i bobl ifanc o wahanol wledydd ddod ynghyd i ddysgu am ddiwylliant a thraddodiadau ei gilydd, ymarfer siarad gwahanol ieithoedd a gwneud cyfeillgarwch rhyngwladol."