Ysgolion Bro Morgannwg yn rhagori mewn arholiadau TGAU
Unwaith eto mae ysgolion Bro Morgannwg wedi perfformio’n eithriadol yn yr arholiadau, gyda disgyblion o’r sir yn cyflawni’r ganran uchaf erioed o raddau TGAU A* ac A.
Yn dilyn llwyddiant yr arholiadau Safon Uwch yr wythnos diwethaf, roedd 26.9% o ganlyniadau TGAU o fewn y ddau gategori uchaf hyn, sef cynnydd o 2.5% ers y llynedd ac, yn anhygoel, 8.4% yn uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru.
Gwnaeth bron i 70% o bob ymgeisydd gyflawni graddau A* i C, o gymharu â chyfartaledd Cymru, sef 61.6%, sy’n welliant o 1.3% ers 2017.
Mae canran y disgyblion a gafodd raddau A* i G yn 97.2% sydd hefyd yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 96.4%.
Roedd llu o ysgolion y Fro hefyd wedi cael llwyddiannau unigol nodedig.
Nododd Ysgol Gyfun y Bont-faen ei set orau erioed o ganlyniadau gyda 48% o’i myfyrwyr yn cyflawni pum gradd A* neu A ac 87.7% yn cael pum gradd A* i C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg.
Yn Stanwell, llwyddodd 82.6% o ddisgyblion i gael pum gradd A* i C, gan gynnwys Saesneg a Mathemateg, ac yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg, Ysgol Gyfun St Richard Gwyn ac Ysgol Ysgol Gyfun Sant Cyres, cafwyd gwelliant yn y perfformiad ar draws sawl mesur.
Daw’r llwyddiannau hyn wythnos ar ôl i ysgolion y Fro ddathlu canlyniadau Safon Uwch arbennig, pan gafwyd cynnydd yng nghanran y disgyblion a gyflawnodd y graddau uchaf ac roedd llawer o ddangosyddion perfformiad eraill yn sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru.
Dywedodd y Cyng. Bob Penrose, Aelod Cabinet Cyngor Bro Morgannwg dros Ddysgu a Diwylliant: “Unwaith eto mae ysgolion y Fro wedi llewyrchu o ran eu perfformiad yn yr arholiadau a dylai pawb fod yn hynod falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni.
“Ynghyd â llwyddiant Safon Uwch yr wythnos diwethaf, mae wedi bod yn haf hynod lwyddiannus i staff addysgol a disgyblion y sir a hoffwn estyn fy llongyfarchiadau diffuant i bob un ohonoch.
“Mae canlyniadau TGAU mor gryf yn dangos bod dyfodol llewyrchus dros ben o flaen nifer mawr o ddisgyblion y Fro ac rwy’n dymuno pob llwyddiant i chi oll wrth i chi gymryd cam nesaf y daith honno.”