Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 08 Mis Awst 2018
Bro Morgannwg
Yn wreiddiol o Lerpwl, hyfforddodd Peter fel cerflunydd yn Ysgol Gelf Slade, Llundain.
Symudodd Peter i Gymru yn 1978, a gallwch weld ei waith yn yr Oriel Cynfasau yng Nghaerdydd. Mae hefyd wedi creu gwaith ar lwyfan i gynyrchiadau gydag Opera Cenedlaethol Cymru.
Yn arbenigo mewn Cerfluniau Cyfoes, mae ei arddangosiad newydd o’r enw ‘Datblygiadau’ yn cyfeirio at broses weithiol, o astudio gwrthrych, creu syniad, cyn creu'r cerflun.
Mae’r gwaith yn cynnwys darnau wedi’u hysgogi gan arlunwyr enwog megis Da Vinci a Boccioni. Mae’r arddangosfa ar agor tan ddydd Sadwrn 8 Medi.
I gael rhagor o wybodaeth ar yr arddangosfa a'r digwyddiadau nesaf, ewch i’r wefan.