Cost of Living Support Icon

 

Mae dynion yn paratoi i gymryd cam ymlaen i arwain y gad yn erbyn trais domestig

 

Fis  nesaf, bydd dynion o bob oed a chefndir yn gwisgo pâr o esgidiau menywod cyn cerdded yn falch drwy brifddinas Cymru. Y nod fydd dangos eu cefnogaeth i’r ymgyrch i ddileu trais yn erbyn menywod, yn enwedig cam-drin domestig a thrais rhywiol.

 

 

  • Dydd Mawrth, 21 Mis Awst 2018

    Bro Morgannwg



Bydd ‘Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi' yn digwydd ddydd Gwener 28 Medi am 10am. Mae dynion o ledled y Fro a Caerdydd yn cael eu hannog i gymryd rhan yn y daith gerdded sy’n dechrau ar bwys Castell Caerdydd ac sy'n dilyn llwybr un milltir o gwmpas canol y ddinas.

 

Mae’r project partneriaeth rhwng Cyngor Bro Morgannwg, Cyngor Caerdydd, a Cymdeithas Tai Cadwyn bellach yn ei bumed flwyddyn, ac mae wedi tyfu o 14 o ddynion yn unig yn 2013 i'r nifer uchaf y llynedd hyd yn hyn o 140.

 

Yn dilyn y daith bydd digwyddiad Llysgenhadon 1.15pm-3.30pm.  Mae’r digwyddiad hwn yn agored i unrhyw un sydd eisoes yn Llysgennad Rhuban Wen neu a hoffai ddysgu mwy. 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles y Cynghorydd Susan Elsmore: “Mae ‘Cerdded Milltir yn ei Hesgidiau Hi' yn un o ddigwyddiadau allweddol Caerdydd i hyrwyddo ymrwymiad y ddinas i Ymgyrch y Rhuban Wen ac mae'n enghraifft o waith partneriaeth gwych i godi ymwybyddiaeth o drais yn erbyn menywod, i herio agweddau ac i wneud dynion yn rhan o drafodaethau am y materion hyn.

 

“Eleni, hoffen ni recriwtio mwy byth o ddynion i fod yn rhan ohoni ac rwy’n annog sefydliadau ac aelodau o’r cyhoedd i gofrestru i wneud y digwyddiad pwysig hwn. Er bod elfen o hwyl yn perthyn i’r digwyddiad, mae’r neges yn gwbl glir – ni fydd y sawl sy’n cymryd rhan yn derbyn trais yn erbyn menywod o unrhyw fath.”

 

Mae trefnwyr hefyd yn apelio am esgidiau menywod ar gyfer y sawl a fydd yn cymryd rhan ar y diwrnod, felly os oes gennych chi unrhyw esgidiau maint deg neu uwch nad oes eu heisiau arnoch chi mwyach, neu os ydych chi'n berchen ar siop a gallech chi gyfrannu esgidiau menywod, cysylltwch.

 

Bob blwyddyn yn y DU, mae mwy na miliwn o fenywod yn dioddef trais domestig ac mae mwy na 360,000 yn dioddef ymosod rhywiol. Er bod cam-drin yn erbyn menywod yn gymharol uwch, mae trais a cham-drin yn gallu effeithio ar unrhyw un.

 

Am fwy o wybodaeth am Ymgyrch Rhuban Gwyn, neu i gofrestru i fod yn llysgennad, ewch i’r wefan - www.whiteribboncampaign.co.uk neu edrychwch ar y poster

 

Os ydych chi, neu os ydych chi yn adnabod rhywun sydd yn byw gyda cham-drin domestig, gallwch dderbyn help a chymorth o’r llinell gymorth ar 0808 80 10 800 (llinell gymorth rydd a cyfrinachol ar agor 24awr) neu ar  www.livefearfree.gov.wales

 

 

 

 WAMIHS social BL