Cost of Living Support Icon

 

Arolwg yn Canfod 'Cryfder i Ddatblygu' yn y Gwasanaethau Plant

Cynhaliodd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) arolwg o Wasanaethau Plant Bro Morgannwg ym mis Mai 2018. 

 

  • Dydd Mercher, 22 Mis Awst 2018

    Bro Morgannwg



Mae’r adroddiad ar yr arolwg newydd gael ei gyhoeddi. 


Edrychodd ar nifer o feysydd gan gynnwys profiadau plant sy'n derbyn gofal a’r sawl sy’n gadael gofal.

 
Prif ganfyddiadau’r arolwg yw bod cymhelliant da gan staff rheng flaen, a bod cefnogaeth dda iddynt, a bod yr awdurdod mewn sefyllfa gref i ddatblygu ei wasanaeth i blant a theuluoedd ymhellach. Noda hefyd fod y sawl sy’n gadael gofal yn bositif iawn ynghylch y cymorth a gawsant gan yr Ymgynghorwyr Personol.


Noda’r adroddiad hefyd rai meysydd i’w gwella, sy’n gyson ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru a arolygwyd. 

 

Dywedodd y Cyng. Gordon Kemp, yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol:

 

“Rydym ni fel awdurdod yn hapus gyda chanlyniadau’r arolwg ac eisoes wedi dechrau gwaith ar feysydd a nodwyd fel rhai i’w gwella. Byddwn yn dal i weithio’n agos gyda AGC i adolygu cynnydd ar yr hyn a wnawn a chroesawn eu hadborth. 


“Rydym yn ymrwymedig i egwyddorion y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, sy’n rhoi mwy o lais i drigolion yn y gofal a chymorth a roddwn. Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwasanaethau lle bynnag y gallwn.”

Caiff yr adroddiad llawn ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.