Llyfrgell y Barri i agor ar ddydd Llun Gwyl y Banc i aelodau sy'n cofrestru i Open+
Bydd Llyfrgell y Barri ar agor ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc ym mis Awst, diolch i’w dechnoleg ddiweddaraf sy'n ei gwneud yn bosibl i'r llyfrgell agor heb aelodau staff.
Bydd y llyfrgell ar agor o 10yb - 4yp ar gyfer oedolion sydd wedi cofrestru i’r gwasanaeth Open+ yn barod.
Mae Open+ yn rhan o Bibliotheca, cwmni sy’n ymroddedig i ddatblygu ffyrdd o gynnal a thyfu llyfrgelloedd ledled y byd.
Llyfrgell y Barri yw’r gangen gyntaf yng Nghymru i dreialu oriau’r hwyrnos, dan Open+.
Nod Open+ yw ategu'r oriau craidd mae staff yn eu gweithio trwy ymestyn oriau agor, gyda'r bwriad o gynyddu nifer y bobl sy'n defnyddio llyfrgelloedd, yn ogystal â sicrhau eu lle yn y gymuned.
Dechreuodd y gwasanaeth yn Ebrill eleni, ac mae dros 100 o bobl wedi defnyddio’r llyfrgell yn ystod yr oriau hwyrnos.
Gall aelodau’r llyfrgell gofrestru ar gyfer cerdyn fydd â rhif pin newydd gan eu galluogi i ddefnyddio’r llyfrgell yn hwyr. Rhaid i’r aelodau gwblhau sesiwn sefydlu byr cyn defnyddio’r cerdyn.
Os bydd y treial ar Ŵyl y banc yn llwyddiannus, fe'i hystyrir ar gyfer Gwyliau Banc eraill yn ystod y flwyddyn.
Os ydych chi am ddefnyddio’r gwasanaeth ar Ŵyl y banc, mi fydd rhaid i chi fod yn aelod o’r llyfrgell, neu bydd rhaid i chi gofrestru cyn y diwrnod.
Mae angen delwedd ffotograffig i ymuno â'r gwasanaeth ac os nad yw trigolion eisoes yn aelod o'r llyfrgell, a bydd angen iddynt roi tystiolaeth o enw a chyfeiriad.
