Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Mercher, 18 Mis Ebrill 2018
Bro Morgannwg
Er mwyn cwrdd â tharged ailgylchu statudol nesaf Llywodraeth Cymru o ailgylchu 64% erbyn 2019/20 mae Cyngor y Fro yn bwriadu cyflwyno cyfyngiad ar nifer y bagiau gwastraff du y bydd yn eu casglu o bob aelwyd.
Mae’r cynigion newydd hyn wedi’u cyflwyno gyda’r nod o gyfyngu ar y swm o wastraff sy’n cael ei gasglu a chynyddu cyfraddau ailgylchu.
Mae’r Cyngor hefyd yn cynnig symud o gasgliadau gwastraff ailgylchadwy cymysg i ailgylchu sy’n cael ei ddidoli ar garreg y drws ei wahanu yn y tarddle yn ystod 2019.
Dyma'r tri phrif reswm y mae angen i'r Cyngor symud o wastraff ailgylchadwy cymysg: Ansawdd, Dyletswydd Gyfreithiol a Chost. Nid yw’r model presennol yn cynnig cynnyrch o ansawdd uchel y gellir ei ailgylchu yma yn y DU. Mae’r model didoli ar garreg y drws yn cydymffurfio â Glasbrint Casgliadau Ailgylchu a Gwastraff Llywodraeth Cymru, yn fwy tebygol o gynyddu cyfraddau ailgylchu i fodloni targedau statudol, ac yn debygol o gynnig arbedion sylweddol.
Gallwch ddweud eich dweud ar y newidiadau hyn drwy gwblhau arolwg ar-lein 5 munud o hyd ar eich hoff ffyrdd o ailgylchu.
O ddydd Gwener 20 Ebrill, bydd staff Cyngor y Fro yn ymweld ag ardaloedd ledled y sir i gynnig cyngor ar ailgylchu a chasglu adborth trigolion.
Am fwy o wyobodaeth ewch i www.valeofglamorgan.gov.uk/recyclingconsultation