Gwaith ailwampio i ddechrau ar maes chwarae Cogan
Bydd gwaith i uwchraddio ardal chwarae Cogan Pill oddi ar Heol Dochdwy Llandochau yn cychwyn ar ddydd 8 Mai.
Bydd y gwaith yn cynnwys gosod offer newydd ac arwyneb diogel, ac uwchraddio’r grisiau ger y sleid boblogaidd.
Bydd y cyfleusterau chwarae presennol yn cael eu cadw, a bydd yr offer newydd yn cynnwys Si-so Gwas y Neidr, uned Zingo ac Uned Tornado.
Derbyniodd Cyngor Bro Morgannwg £41,689 o arian Adran 106 gan Gymdeithas Tai Hafod ar gyfer gwelliannau man agored cyhoeddus o waith datblygu 67-79 Dochdwy Road (yr hen barêd siopa). Dyrannwyd yr arian i Ardal Chwarae Cogan Pill sydd wrth ymyl y safle.
Horizon Civil Engineering Ltd fydd y contractwr, a bydd y gwaith wedi ei gwblhau o fewn rhyw chwe wythnos.
Bydd arwyneb diogel yn cael ei osod a bydd y contractwr yn uwchraddio’r sglefren a’r grisiau sydd eisoes yno. Byddant hefyd yn ail-alinio’r rheiliau ac yn cadw'r sglefren bresennol.
Cynhaliwyd ymarferiad ymgynghori yn gynnar yn 2017 yn Ysgol Gynradd Llandochau, sydd drws nesaf i’r safle.
Daeth disgyblion ag awgrymiadau ar gyfer adnewyddu ac fe rannon nhw eu syniadau mewn gwasanaeth yn yr ysgol.
Dywedodd y plant y dylai fod fframiau dringo a chyfarpar a fyddai’n addas i blant hŷn a phlant iau, gan eu bod o’r farn y dylai parc allu creu atgofion plentyndod i bara oes.
Dywedodd y Cynghorydd Gordon Kemp, aelod cabinet Cyngor y Fro dros ofal cymdeithasol, iechyd a hamdden: “Mae hwn yn broject cyffrous i drigolion Llandochau ac mae’n wych bod y plant ysgol wedi cael cyfle i ddweud eu dweud am eu hardal chwarae.
“Mae’n wych o beth, hefyd, y gellir defnyddio arian Adran 106 i ariannu’r ardal chwarae hon i’r gymuned, a’r plant yn enwedig, a fydd yn gallu gwneud yn fawr o’r cyfarpar chwarae newydd dros wyliau’r haf."
