Cost of Living Support Icon

 

Cyngor y Fro yn ehangu astudiaeth trafnidiaeth Dinas Powys i gynnwys opsiynau ychwanegol o ran ffordd osgoi

Mae’r astudiaeth o ffordd osgoi Dinas Powys wedi’i hymestyn i gynnwys ardal fwy o lawer ac opsiynau ychwanegol ar gyfer rhan ddeheuol y llwybr arfaethedig.

 

  • Dydd Llun, 30 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg



Cafodd hyn ei wneud ar argymhelliad Cyngor Cymuned Dinas Powys.

 

Bydd yr astudiaeth nawr yn ystyried yr angen am ffordd yn cysylltu rhannau o’r cynllun yn ardal Murch Road â chyffordd Sully Moors Road a Hayes Road.

 

 

Cox, Geoff

Meddai’r Cynghorydd Geoff Cox, Aled Cabinet dros Wasanaethau Cymdogaethau a Thrafnidiaeth: “Rydym am glywed barn cynifer o bobl â phosibl ac ystyried cynifer o opsiynau â phosibl i sicrhau ein bod yn canfod yr ateb gorau i broblemau traffig Dinas Powys.

 

 

“Yn dilyn argymhelliad y cyngor cymuned, bydd arolygon traffig nawr yn cael eu cynnal wrth 3 cyffordd Sully Moors Road, Hayes Road a Ffordd y Mileniwm a chylchfan Biglis.

 

 

 

“Bydd y wybodaeth yna’n cael ei defnyddio i asesu’r effaith ar batrymau teithio, pellter ac amseroedd teithio tebygol fel y gallwn gymharu opsiynau ffordd osgoi gwahanol ac ystyried opsiynau nad ydynt yn cynnwys ffyrdd.

 

 

 “Os bydd dadansoddiad cost/budd y cynlluniau hyn yn gwneud synnwyr, mae’n bosibl y bydd gennym ddau opsiwn ffordd osgoi i’w cyflwyno ar gam nesaf yr astudiaeth, ond mae hyn yn amodol ar y Cyngor yn sicrhau cyllid priodol ar gyfer y cam hwn.”

 

 

 

 

Yn flaenorol, roedd yr astudiaeth o broblemau, cyfleoedd a chyfyngiadau ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth lleol yn gyfyngedig i’r ardal o gylchfan Biglis i gyffordd Barons Court.