Cost of Living Support Icon

 

Y Cyngor i dorri ar gost swyddfa'r Maer

Bydd newid mawr i rôl y Maer ym mro Morgannwg yn debygol o arbed £85,000 y flwyddyn i’r Cyngor, os caiff y newidiadau eu cymeradwyo’r wythnos nesaf.

 

 

  • Dydd Llun, 30 Mis Ebrill 2018

    Bro Morgannwg



 

Byddai cynlluniau y bydd Cabinet y Cyngor yn eu hystyried yn arwain at newidiadau a fyddai’n lleihau'r gost sydd ynghlwm wrth rôl a swyddogaethau'r Maer. 

 

Cynigir y dylid symud swyddfa’r Maer o Neuadd y Dref i’r Prif Swyddfeydd Dinesig. Byddai hyn yn gwneud arbedion sylweddol a gellid hefyd greu incwm drwy roi Neuadd y Dref ar les yn y dyfodol.

 

Byddai hefyd yn lleihau’r cymorth a roddir gan staff y Cyngor i’r Maer, a hyn hefyd yn arwain at arbediad pellach.

 

Dywedodd y Cynghorydd John Thomas, Arweinydd y Cyngor: “Mae angen i rôl y Maer esblygu’n unol â rôl y Cyngor yn ei gyfanrwydd, ac o fewn ein cyd-destun ariannol presennol. 

 

“Bydd y Maer yn parhau i lenwi rôl wyneb cyhoeddus dinesig y Fro, a bydd yn parhau i gynrychioli’r awdurdod mewn digwyddiadau pwysig a chyfrannu'n fawr at godi proffil grwpiau cymunedol a gwirfoddol lleol. Nid oes llawer o gyfiawnhad bellach, fodd bynnag, dros barhau i drefnu a chynnal digwyddiadau drudfawr a’r costau lletygarwch sydd ynghlwm wrthynt.

 

Byddai dull newydd o weithredu, un sy’n addas i sefydliad democrataidd ac sy’n arbed arian flwyddyn ar ôl blwyddyn, er budd pawb, ac rydym yn falch i arwain y ffordd ar hyn yng Nghymru.  Ar adeg ariannol heriol, sy’n rhoi pwysau mawr ar wasanaethau rheng flaen, dyma'r peth iawn i'w wneud."

 

 

Dywedodd y Cynghorydd Leighton Rowlands, Darpar Faer 2018/19: A minnau’n ddarpar Faer, rwyf wedi bod yn gweithio gyda’r Arweinydd i ddatblygu cynllun fydd yn defnyddio swyddogaeth y Maer i godi ymwybyddiaeth o elusennau a grwpiau cymunedol lleol.

 

 “Bydd Cronfa’r Maer newydd, a bydd yn dilyn yr egwyddor a sefydlwyd gan gronfa Grant Cymunedau Cryf y Cyngor gan roi cyfle i sefydliadau lleol ym Mro Morgannwg i wneud cais am gyfraniadau bychain gydol y flwyddyn.”

 

Mae’r cost o gynnal Parlwr y Maer yn Neuadd y Dref yn rhyw £24,500 y flwyddyn ar hyn o bryd. Mae’r swm hwn yn cynnwys costau cynnal a chadw, ynni, dŵr yswiriant a ffonau. Byddai symud i’r Swyddfeydd Dinesig yn dileu’r costau hynny’n llwyr.

 

Roedd cyllideb seremonïau dinesig a lletygarwch ar gyfer 2017/18 yn £30,500. Bydd hwn yn cael ei leihau £10,500. Bydd £5000 o’r hyn sy’n weddill yn cael ei ddyrannu i Gronfa newydd y Maer ar gyfer achosion da lleol.

 

Bydd costau gweinyddu gwaith Swyddfa’r Maer hefyd yn cael eu lleihau yn sgil y newid, gan arbed bron £50,000 arall.  

 

Os caiff y cynlluniau eu cymeradwyo, bydd Maer, a’r Dirprwy Faer, yn parhau i gael eu hethol bob blwyddyn. Bydd y Maer yn parhau i gadeirio cyfarfodydd llawn y cyngor ac i gynrychioli'r Cyngor mewn digwyddiadau dinesig a seremonïol pwysig.

 

 

 

Civic Offices-007