Mae ein gwefan yn defnyddio cwcis
Rydym yn defnyddio cwcis ar gyfer gweithrediad gwefannau ac i helpu i ddadansoddi ein traffig er mwyn i ni allu gwella ein gwasanaethau. Mae cwcis angenrheidiol yn helpu i wneud y wefan yn ddefnyddiadwy drwy alluogi swyddogaethau sylfaenol fel llywio tudalen. Ni all y wefan weithredu'n iawn heb y cwcis hyn. Dewiswch eich dewisiadau isod. Gwybodaeth am Gwcis
Galluogi pob cwci Caniatáu dewis
Dydd Llun, 09 Mis Ebrill 2018
Bro Morgannwg
Penarth
Cawsant eu troi allan o’r ardal fore dydd Gwener cyn symud i faes parcio Canolfan Hamdden Penarth am gyfnod byr – cawsant eu diarddel o'r fan honno hefyd.
Daeth y grŵp i’r ardal ddydd Sul a dywedodd swyddogion y Cyngor wrthynt ar unwaith nad oedd eu harhosiad wedi’i awdurdodi, ei fod yn anghyfreithlon ac na fyddai’n cael ei oddef.Rhoddwyd gwybod i'r heddlu, a gwnaethant helpu gyda'r sefyllfa.
Rhaid dilyn proses lem pan mae grwpiau o Sipsiwn a Theithwyr yn meddiannu tir, a bu’n rhaid cwblhau hon cyn symud y grŵp yn ei flaen.
Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’n gwbl annerbyniol meddiannu tir y Cyngor fel hyn. Ni fyddwn yn goddef y fath beth. “Cyn gynted ag y cawsom wybod am y sefyllfa, cymerwyd camau ar unwaith i sicrhau bod y grŵp yn cael ei symud cyn gynted â phosibl.”
Dywedodd y Cyng. John Thomas, Arweinydd Cyngor Bro Morgannwg: “Mae’n gwbl annerbyniol meddiannu tir y Cyngor fel hyn. Ni fyddwn yn goddef y fath beth.
“Cyn gynted ag y cawsom wybod am y sefyllfa, cymerwyd camau ar unwaith i sicrhau bod y grŵp yn cael ei symud cyn gynted â phosibl.”